Ymgynghoriad ar Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022
C1. A yw Rhan 2 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer cymhwyso'r gyfundrefn perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ac astudiaethau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Os nad ydyw, rhowch fanylion sut gellir ei wneud yn gliriach?
C2. A ydych yn cytuno y dylid gohirio'r gofyniad i gynnal asesiad panel o berfformiad tan y cylch etholiadol nesaf?
C3. A yw Rhan 3 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer trosolwg a chraffu ar CBC?
Os nad ydyw, rhowch fanylion sut gellir ei wneud yn gliriach
C4. A yw Rhan 4 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer mabwysiadu rheolau sefydlog penodol?
Os nad ydyw, rhowch fanylion sut gellir ei wneud yn gliriach
C5. A ydych yn cytuno y dylid diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 i fod yn gymwys i CBCau?
C6. A yw Rhan 5 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer y nifer fach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol a nodwyd?
Os nad ydyw, rhowch fanylion sut gellir ei wneud yn gliriach.