Hoffai'r Cyngor glywed eich barn am ei Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu ddrafft.  

 

Byddwn yn ystyried y wybodaeth y byddwch yn ei rhannu â ni a bydd yn ein helpu i benderfynu ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn y Strategaeth derfynol.   


Gallwch gyflwyno eich adborth rhwng 29 Medi a 9 Tachwedd 2025. 

 

Cyn llenwi’r arolwg, a fyddech cystal â threulio ychydig o funudau yn edrych trwy’r strategaeth ddrafft (yn agor mewn ffenest newydd) .

Datganiad Preifatrwydd

 

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data fel rhan o’i ddyletswydd gyhoeddus at ddibenion penodol deall eich barn ynghylch ei Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu ddrafft ac at ddibenion Monitro Cydraddoldeb yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.  

 

Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw’n ddienw ac yn cael ei defnyddio ar gyfer llunio adroddiadau i’w hystyried gan y sawl sy’n gwneud penderfyniadau.   

 

Bydd yr adborth a ddarperir gennych yn cael ei gadw am flwyddyn.  

 

Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - http://www.flintshire.gov.uk/cy/Resident/ContactUs/Privacy-Notice.aspx (bydd yn agor mewn ffenest newydd) 

Rwyf i (ticiwch bob un sy’n berthnasol) *

 

A fyddech chi’n cytuno bod ein Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu ddrafft  ....  

Cytuno'n gryfCytunoNiwtralAnghytunoAnghytuno’n gryf
Yn glir
Yn hawdd i’w darllen
Yn hawdd i’w deall
bydd yn cefnogi llawer o bobl wahanol i gael llais
 

A oes unrhyw beth arall y dylid ei ychwanegu at y Strategaeth yn eich barn chi?  

 

Pa un o'r sianeli hyn ydych chi'n hoffi eu defnyddio i roi gwybod i ni am yr hyn sy’n bwysig i chi. Gallwch roi tic mewn mwy nag un blwch. 

 

A oes unrhyw sianeli eraill yr hoffech chi eu defnyddio i rannu eich barn gyda ni?  

 

Rhestrwch nhw yn y blychau isod. 

 

Os oes gennych chi unrhyw adborth arall am y Strategaeth, defnyddiwch y blwch isod.