Iaith:

Ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022

 

C1. A yw rheoliad 2 o'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder o ran yr amgylchiadau pan fo rhaid trin dau neu ragor o hereditamentau a feddiennir fel un hereditament? Os nad yw, sut y gellir ei wella?

 

C2. A yw rheoliad 3 o'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder o ran yr amgylchiadau pan fo rhaid trin dau neu ragor o hereditamentau heb eu meddiannu fel un hereditament? Os nad yw, sut y gellir ei wella?

 

C3. A yw rheoliadau 4 a 5 o'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder o ran yr amgylchiadau pan fo dau neu ragor o hereditamentau i'w hystyried yn gyffiniol â'i gilydd? Os nad ydynt, sut y gellir eu gwella?

 

C4. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am y Rheoliadau drafft?

 

C5. Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r Rheoliadau drafft yn eu cael ar y Gymraeg, ac ar y canlynol yn benodol:  
ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg; a
ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

 

C6. Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid y Rheoliadau drafft er mwyn:
cael effaith gadarnhaol neu gynyddu’r effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a
osgoi unrhyw effaith niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

C7. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.