Mae'r ffurflen gais hon am drwydded i ymyrryd â brochfeydd moch daear at ddiben rheoli llwynogod i warchod bywyd gwyllt.

Diffinnir ymyrraeth gan adran 3 o Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992 ac mae’n cynnwys aflonyddu ar foch daear wrth feddiannu brochfa, difrodi neu ddinistrio brochfa moch daear a rhwystro unrhyw fynedfa i frochfa.

Rhaid cwblhau'r holl gwestiynau yn y ffurflen gais hon yn fanwl oni nodir yn wahanol: bydd methu darparu gwybodaeth ddigonol yn oedi prosesu eich cais.  Dylid atodi unrhyw wybodaeth arall rydych am ei darparu ar daflenni ychwanegol. Ein nod yw penderfynu ceisiadau o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr holl wybodaeth y gofynnir amdani. Ni allwn warantu ymateb cynharach.

Amod unrhyw drwydded a roddir yw bod rhaid cyflwyno adroddiad llawn ar y gwaith a wnaed dan y drwydded o fewn pedair wythnos wedi i'r drwydded ddod i ben. Mae’r Ffurflen Adrodd am Drwydded ar gael ar ein gwefan. Gall methu â gwneud hyn fod yn drosedd. Mae angen gwybodaeth o'r adroddiadau hyn i roi gwybodaeth gryno i CNC ac eraill am nifer y trwyddedau a roddwyd, diben y drwydded, a'r rhywogaethau dan sylw. Nid oes unrhyw rai o'r ystadegau cryno hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol am drwyddedeion. Gall yr wybodaeth hefyd gael ei defnyddio at ddibenion cadwraeth a'i rhannu â sefydliadau eraill.

Noder na fyddwn yn prosesu eich cais nes ein bod wedi derbyn yr holl ddogfennau y gofynnir amdanynt. Gwnewch yn siŵr os ydych yn anfon dogfennau neu gynlluniau atom ar ffurf copi papur fod y print yn ddarllenadwy. Bydd angen i'r holl gopïau fod yn unfath â'r ddogfen wreiddiol, ac mewn lliw fel sy'n briodol.

Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Bydd hyn yn caniatáu i ni brosesu eich cais, monitro cydymffurfiaeth ag unrhyw amodau i’r drwydded, prosesu adnewyddiadau, a chynnal y gofrestr gyhoeddus berthnasol.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi mewn cysylltiad â'r canlynol:
  • Ymgynghori â thrydydd partïon sy’n berthnasol ac yn gyfrifol am ymateb i geisiadau ymgynghori gan CNC i’n galluogi i brosesu eich cais
  • Cynnal gwaith dadansoddi ystadegol, ymchwil a datblygu ar faterion amgylcheddol
  • Darparu gwybodaeth am gofrestrau cyhoeddus ar gyfer ymholiadau
  • Atal ac ymchwilio i achosion posibl o dorri deddfau amgylcheddol a chymryd unrhyw gamau dilynol
Ymateb i geisiadau am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Sylwer nad yw'r uchod yn rhestr hollgynhwysol a gall CNC ddefnyddio'r data a ddarperir mewn cysylltiad â'r cais mewn ffyrdd eraill, fel yr ystyrir yn briodol.
Hoffem hefyd anfon manylion atoch ynglŷn â phynciau eraill y credwn y gallent fod o ddiddordeb i chi, megis newyddion CNC, gwasanaethau sy'n ymwneud â materion amgylcheddol, eich holi am eich adborth am ein gwasanaeth, a mwy o wybodaeth ddefnyddiol.

Os ydych yn cydsynio i dderbyn gwybodaeth bellach gennym, ticiwch y blwch canlynol i gadarnhau.

Sylwch y gallwn drosglwyddo'r wybodaeth i'n hasiantau neu gynrychiolwyr i gyflawni hyn ar ein cyfer.
Os oes gennych ymholiadau neu bryderon pellach, cysylltwch â dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  Am fwy o wybodaeth am brosesu eich manylion personol ewch i'n tudalen Hysbysiad Preifatrwydd (yn agor mewn tab newydd) 
Rhaid i'r cais hwn gael ei gefnogi gan ddatganiad dull.  Rhaid i'r datganiad dull gynnwys cynlluniau wrth gefn os canfyddir unrhyw rywogaethau ar y safle tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo.

Ein nod yw anfon cydnabyddiaeth o dderbyn eich cais o fewn pum diwrnod gwaith.

Mae CNC yn anelu at benderfynu ar geisiadau o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad derbyn ffurflen gais a gwblhawyd a'r wybodaeth gysylltiedig ofynnol. Cyfeiriwch at y rhestr wirio ar ddiwedd y ffurflen hon am arweiniad pellach. Os bydd angen gwybodaeth bellach oddi wrthych yn ystod y cyfnod penderfynu, am ba bynnag reswm, bydd hyn yn oedi'r cyfnod penderfynu.

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir atoch gan CNC drwy e-bost.  Os nad oes cyfeiriad e-bost wedi'i ddarparu, byddwn yn cysylltu â chi ar ffurf ysgrifenedig drwy'r post.  Sylwer y gall hyn oedi eich cais o ganlyniad i amseroedd dosbarthu trwy’r post.
Rhaid i unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y cais y mae’r Prif Drwyddedai Arfaethedig yn ei hystyried yn gyfrinachol am resymau masnachol neu sy’n effeithio ar hawliau eiddo deallusol y Prif Drwyddedai Arfaethedig gael ei nodi'n glir fel y cyfryw.