CAMHS - Adolygiad Cenedlaethol - Arolwg Rhieni/Gofalwyr - 2024

0%

1. Amdani Ni

 

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru.

Fel rhan o'n rhaglen o adolygiadau blynyddol, rydym wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cenedlaethol a fydd yn ystyried y gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc mewn gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant. Bydd hyn yn cynnwys y cyfnod cyn y caiff atgyfeiriad ei wneud at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) neu cyn y caiff asesiad ei gynnal ganddynt.

CAMHS (neu SCAMHS) yw'r enw ar wasanaethau arbenigol y GIG sy'n asesu pobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl ac yn eu trin. Efallai y byddwch hefyd yn gweld CYPMHS yn cael ei ddefnyddio, sy'n golygu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

Mae AGIC, ynghyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn ceisio casglu gwybodaeth am eich profiad fel rhiant neu ofalwr sy'n ymwneud â chefnogi plentyn neu berson ifanc gyda'i iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys clywed am y gofal a'r cymorth a ddarperir gan CAMHS.

Yr Holiadur

Bydd y canlyniadau yn ein helpu i wneud argymhellion ar gyfer adroddiad cenedlaethol. Fodd bynnag, gallwn roi sicrwydd i chi y caiff gwybodaeth o'r fath ei chyflwyno'n ddienw yn yr adroddiad er mwyn sicrhau na ellir adnabod unrhyw unigolyn.

Mae'r arolwg hwn yn wirfoddol, ac mae pob cwestiwn yn ddewisol oni nodir yn wahanol.

Diolch am eich help.