Iaith:

Fframweithiau’r sgiliau trawsgwricwlaidd: camau ABC diwygiedig

 

Cwestiwn 1: Ydych chi’n gweithio ym maes addysg neu’n helpu i ddarparu addysg?

YdwNac ydw
 

(i) Os ydw, beth yw eich sefydliad? (Os nac ydw, ewch i iii isod)

 

(ii) Beth yw eich prif rôl?

 

(iii) Os nad ydych yn gweithio ym maes darparu addysg neu mewn maes sy'n cefnogi darparu addysg, ym mha rinwedd yr hoffech roi adborth?

 

(iv) A ydych chi'n darparu adborth ar ran sefydliad neu grŵp?

YdwNac ydw
 

(v) Os, ‘ydw’, nodwch:

 

Cwestiwn 2: I ba raddau ydych chi'n cytuno neu’n anghytuno â'r newidiadau i Gamau ABC o fewn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol?

Anghytuno’n gryfAnghytunoDdim yn cytuno nac yn anghytunoCytunoCytuno’n gryf
 

Cwestiwn 3: Mae'r Fframweithiau yn cynnwys cerrig milltir allweddol Ar Drywydd Dysgu. Bwriad hyn yw darparu ymarferwyr gyda dealltwriaeth o ddysgu blaenorol i ddysgu gofynnol. A yw hyn yn ddefnyddiol?

Defnyddiol dros benDefnyddiol iawnRhywfaint yn ddefnyddiolEithaf defnyddiolDdim yn ddefnyddiol o gwbl
 

Cwestiwn 4: A yw'r Camau ABC diwygiedig yn helpu ymarferwyr i gynllunio ar gyfer cynnydd dysgu a phersonoli dysgu rhwng camau?

YdyntNac ydyntDdim yn siŵr
 

Cwestiwn 5: Ydych chi'n cytuno â chynnwys datblygiad gweithredoedd motor o sgiliau motor bras i sgiliau motor manwl o fewn Camau ABC y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd?

Anghytuno’n gryfAnghytunoDdim yn cytuno nac yn anghytunoCytunoCytuno’n gryf
 

Cwestiwn 6: Mae rhai dysgwyr yn datblygu dulliau amgen er mwyn ysgrifennu oherwydd anawsterau synhwyraidd corfforol. A ddylid ychwanegu elfen arall at linyn Ysgrifennu'r Fframwaith Llythrennedd i gydnabod datblygiad a chynnydd y sgiliau hyn (hy creu testun heb feiro a phensil)?

DylidNa ddylidDdim yn siŵr
 

Cwestiwn 7: A oes unrhyw rai o ddatganiadau Camau ABC sydd, yn eich barn chi, yn rhy fanwl neu sydd ddim yn ddigon manwl? Rhowch fanylion, gan esbonio pam.

 

Cwestiwn 8: Pa ddeunyddiau cymorth pellach fyddai'n ddefnyddiol?

 

Cwestiwn 9: Gall dysgwyr dreulio cryn dipyn o'u hamser yn dysgu o fewn Camau A/B/C. A yw'r Camau ABC diwygiedig yn dangos y dysgu sydd ei angen i gefnogi cynnydd?

YdyntNac ydyntDdim yn siŵr
 

Cwestiwn 10: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r Camau ABC diwygiedig yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar:

i) gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

 

Cwestiwn 11: Eglurwch hefyd sut gellid ffurfio neu newid y Camau ABC diwygiedig:

i) fel bod effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
ii) fel nad oes effeithiau andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

 

Cwestiwn 12: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi faterion perthnasol nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni amdanynt.