Gwirio Gyrfa (Gadawyr Blwyddyn 11, 2024)

0%

1. Cyflwyniad

 
Cynlluniwyd yr arolwg hwn gyda dysgwyr blwyddyn 10 ac 11 mewn golwg. Nid yw'r arolwg hwn yn briodol ar gyfer unrhyw grwpiau blwyddyn eraill.  Gall Gyrfa Cymru weithio gyda phobl ifanc mewn sawl ffordd, gan gynnwys cyfweliadau gyrfa (wyneb yn wyneb neu drwy alwadau ffôn/ fideo gynadledda), sesiynau grŵp (yn bersonol neu drwy gyfrwng gwefannau), drwy e-bost, negeseuon testun, sgwrsio ar-lein neu drwy ein gwefan.
 
Er mwyn ein helpu i sicrhau ein bod yn gweithio gyda chi yn y ffordd fwyaf priodol, rydym wedi creu'r holiadur hwn, sef Gwirio Gyrfa.  Mae'r arolwg Gwirio Gyrfa yn rhoi cipolwg ar y ffordd yr ydych yn meddwl ar hyn o bryd ac rydym yn gwybod y gall hyn newid ar unrhyw adeg.

Bydd rhai o'r cwestiynau y byddwch yn eu hateb yn rhoi syniad i ni o ba wasanaethau Gyrfa Cymru fydd orau i'ch helpu i wneud penderfyniadau am eich gyrfa.   Mae hyn yn golygu y bydd yr atebion mewn rhai rhannau o'r holiadur yn cael eu sgorio.  Yr enw ar hyn yw proffilio. 
 
Byddwn yn dweud wrthych pa atebion sy'n cael eu sgorio'n ddiweddarach yn yr holiadur.  Nid yw hyn yn golygu bod rhai atebion yn well nag eraill: nid oes atebion cywir nac anghywir, ond bydd eich atebion yn rhoi syniad i ni o sut rydych chi'n teimlo am rai pethau sy'n ymwneud â'ch gyrfa yn y dyfodol.  Yna byddwn yn defnyddio'r atebion hyn, ynghyd â gwybodaeth arall megis pa bynciau rydych chi'n eu hastudio, i'n cynorthwyo i ddarparu'r gwasanaeth mwyaf priodol i ddiwallu eich anghenion. 
 
Gallwch drafod eich ymatebion i'r holiadur hwn gyda'ch Cynghorydd Gyrfa yn yr ysgol.
 
Er mwyn i’r holiadur hwn fod yn ystyrlon, mae angen i chi ateb rhai o’r cwestiynau. Fodd bynnag, mae rhai cwestiynau’n ddewisol, felly os nad ydych chi eisiau eu hateb gallwch eu hanwybyddu.
 
Pwysig: Darllenwch Hwn Cyn Dechau Llenwi'r Holiadur
 
  • Bydd Gyrfa Cymru yn cadw'r wybodaeth a roddwch i ni yn yr holiadur hwn ar gronfa ddata fewnol Gyrfa Cymru.  Bydd hefyd yn cael ei storio yn yr offeryn Smart Survey rydych chi'n ei ddefnyddio.
  • Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich manylion cyswllt a chanlyniadau'r holiadur hwn i sefydliadau eraill, gan gynnwys eich ysgol, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i'ch helpu i gynllunio eich gyrfa.
  • Gallwn hefyd drosglwyddo eich manylion i sefydliadau eraill sy'n ein helpu i fonitro pa mor dda yw ein gwasanaethau.  Efallai y byddan nhw'n cysylltu â chi i ofyn i chi beth yw eich barn am y gwasanaeth a gawsoch gennym.
  • Os hoffech wybod mwy am sut rydym yn defnyddio eich data personol, mae ein hysbysiad preifatrwydd ar gael ar ein gwefannau www.gyrfacymru.com a gyrfacymru.llyw.cymru. 

Rydym am i chi wybod bod gennych hawliau mewn perthynas â'ch data personol, gan gynnwys yr hawl i ofyn i ni roi'r gorau i ddefnyddio eich data personol (mewn rhai amgylchiadau).  Gallwch gael gwybod mwy am hyn (os ydych chi eisiau) drwy ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd.


(C) Gyrfa Cymru / Careers Wales 2013-19