
Penpont, Brecknockshire. © Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Historic England yn cynnal ymchwil i ddeall sut mae gerddi a pharciau hanesyddol ledled y DU yn cael eu rheoli a’u cynnal i ymateb i’r bygythiadau a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd. Mae’r gwaith yn cynnwys deall pa gyngor sy’n bodoli i berchnogion a rheolwyr y lleoedd hyn, pa heriau maent yn eu hwynebu, pa ffactorau sy’n cael eu hystyried i rheolaeth y dyfodol, ac a oes ystyriaeth gytbwys rhwng arwyddocâd diwylliannol, hanesyddol ac ecolegol y safleoedd.
Mae'r holiadur canlynol wedi'i rannu'n 5 adran, a ddylai gymryd tua 10 i 15 munud i'w gwblhau. Mae llawer ohonynt yn ddewisiadau lluosog, ond mae rhai cwestiynau agored lle byddem yn gwerthfawrogi atebion mwy manwl os oes gennych yr amser.
Bydd pob gwybodaeth a roddwch yn cael ei gyflwyno yn anhysbys a'i chadw'n llym gyfrinachol. Hyd yn oed os ydych yn rhoi caniatâd, byddwch yn dal yn rhydd i dynnu allan o'r astudiaeth ar unrhyw adeg, heb roi rheswm, a bydd eich data yn cael ei ddinistrio'n ddiogel ac yn gyfrinachol. Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Historic England yn gweithredu fel Rheolydd Data ar y cyd ar gyfer y prosiect hwn. Mae hyn yn golygu bod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Historic England yn gyfrifol am ofalu am eich gwybodaeth ac am ei defnyddio'n gywir.
Darllenwch bolisïau preifatrwydd:
• heritagefund.org.uk/cy/privacy
• historicengland.org.uk/terms/privacy
