Arolwg Praesept yr Heddlu 2019/20

0%
 
Byddai eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, yn hoffi clywed eich barn ar y lefel gywir ar gyfer praesept yr heddlu 2019/20. Praesept yr heddlu yw'r swm rydych yn ei dalu fel rhan o'ch treth gyngor ac fe'i defnyddir i dalu am wasanaethau plismona lleol.

Mae eich cyfraniad tuag at braesept yr heddlu'n rhan hanfodol o gyllid yr heddlu, a heb hyn, ni allwn gynnal gwasanaeth yr heddlu sy'n ymateb i'ch anghenion yn effeithiol ac yn effeithlon.

Am ragor o wybodaeth am braesept yr heddlu, darllenwch ein taflen 'Eich cyfraniad tuag at blismona' – 'Yr hyn sydd angen i chi ei wybod'. Mae ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig presennol hefyd yn cynnwys llawer iawn o fanylion a hanes toriadau yng nghyllid yr heddlu.