Ymgynghoriad cam dau: Trefniadau arolygu Estyn o Fedi 2021 ymlaen
Dyma’r ail mewn cyfres o ymgynghoriadau ynglŷn â’r ffordd orau gall arolygu gynorthwyo ysgolion a darparwyr eraill i reoli’r newidiadau niferus mewn addysg.
Rhwng 2020 a 2024, rydym yn bwriadu gwneud newidiadau i’n gwaith:
- yn ystod y flwyddyn bontio, sef 2020-2021, rydym yn bwriadu atal ein harolygiadau o ysgolion er mwyn i arolygwyr gydweithio ag ysgolion ar y newidiadau i’r cwricwlwm (Cam un)
- ym Medi 2021, rydym yn bwriadu newid ein trefniadau arolygu i gyd-fynd â’r newidiadau i addysg yng Nghymru (Cam dau)
- cyn 2024, byddwn yn arbrofi ag arolygiadau sy’n canolbwyntio ar ddilysu prosesau hunanwella ysgolion (Cam tri)
Ar bob cam, byddwn yn cydweithio â chi i lunio ein cynlluniau. Yn ystod haf 2019, fe wnaethom eich holi ynghylch beth ddylem ei wneud i gynorthwyo ysgolion yn ystod y flwyddyn bontio. Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn gofyn am eich barn ar ein trefniadau arolygu o Fedi 2021 ymlaen.
Cyd-destun
Yn 2017, cyflwynom drefniadau arolygu newydd. Ar yr un pryd, ac yng nghyd-destun diwygiadau uchelgeisiol i addysg, comisiynodd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi adolygiad annibynnol o arolygu ysgolion yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad yr adolygiad, ‘Arolygiaeth Dysgu’, ym Mehefin 2018. Mae’n gwneud cyfres o argymhellion ynghylch sut y gallwn addasu ein gwaith i gyfrannu’n adeiladol at ddiwygio addysg. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o’n hymateb i ‘Arolygiaeth Dysgu’, sy’n canolbwyntio’n benodol ar ein trefniadau arolygu.
Beth yw’r cwmpas?
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r sectorau canlynol:
- ysgolion cynradd, gan gynnwys ysgolion meithrin
- ysgolion uwchradd
- ysgolion pob oed
- ysgolion arbennig
- unedau cyfeirio disgyblion
- ysgolion annibynnol
Nid yw lleoliadau nas cynhelir, addysg gychwynnol athrawon, Cymraeg i oedolion ac awdurdodau lleol wedi’u cynnwys, er y gallai’r adborth lywio trefniadau arolygu yn y sectorau hynny yn y dyfodol.
Bydd ymgynghoriad ar wahân ar gyfer colegau addysg bellach, Dysgu i Oedolion a darparwyr dysgu yn y gwaith yn ystod 2020.
Mae rhai agweddau ar beth a sut rydym yn arolygu yn ofynion cyfreithiol. Byddai unrhyw newidiadau i’r agweddau hynny yn cymryd ychydig yn hwy ac yn destun ymgynghori pellach.