Prosesu Data Personol fel rhan o’n Dyletswydd Gyhoeddus


Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data fel rhan o’n dyletswydd gyhoeddus ar gyfer y dibenion penodol o gasglu adborth am brofiadau pobl sy’n cael mynediad at wasanaethau digartrefedd er mwyn deall y galw am wasanaethau, i wella cyflenwi gwasanaeth, a chefnogi cynllunio gwasanaeth o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. 


Mae’r Arolwg Atal yn ddienw, ac ni ofynnir i unigolion ddarparu eu henw nag unrhyw wybodaeth bersonol. 


Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall.  Mae’n bosibl y caiff y wybodaeth a gesglir drwy’r arolwg hwn ei defnyddio mewn modd dienw ar gyfer adroddiadau mewnol a gwella a chynllunio gwasanaethau.  Gall data hefyd gyfrannu at adroddiadau dienw i Lywodraeth Cymru lle bo hynny’n berthnasol. 


Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw ymatebion i arolygon yn unol ag atodlen gadw’r Cyngor a chyhyd ag sydd ei hangen er mwyn gwella gwasanaethau ac at ddibenion adrodd yn unig. 


Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.


I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’r hawliau sy’n berthnasol i ti, gweler ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan  – https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx.

Beth yw enw eich darparwr gwasanaeth?  *