Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Cyswllt Ddiwydiannol Sefydliad Technoleg Massachusetts Rhagfyr 2023

 

Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’ch data.

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer eich data personol a gaiff eu casglu a’u storio’n ddiogel gan Lywodraeth Cymru. Bydd y data hyn yn cynnwys eich enw, enw’ch sefydliad, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn. Rydym yn casglu’r data hyn er mwyn i Lywodraeth Cymru allu cysylltu â chi’n benodol ynghylch Rhaglen Cyswllt Diwydiannol (ILP) Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT).
Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am gyfleoedd i fynychu cynadleddau a theithiau dysgu pwrpasol ac anfon gwybodaeth atoch am ddigwyddiadau sydd ar y gweill ac adnoddau ehangach a allai fod o ddiddordeb i chi.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu.

Caiff eich data personol eu prosesu gyda’ch cydsyniad, a ddaw pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb i gwestiynau’r arolwg.
Cewch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â 
WelshGovernmentILPMIT@llyw.cymru


Pwy fydd yn cael gweld eich data?
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n gweinyddu’r Rhaglen Cyswllt Diwydiannol (ILP) yn gallu gweld eich data. Mae’n bosibl y bydd angen rhannu eich manylion ar brydiau gyda MIT fel y sefydliad sy’n darparu’r rhaglen hon. Efallai y byddwn yn rhannu eich manylion gyda thrydydd parti at ddibenion creu a dosbarthu’r cylchlythyr, gwneud trefniadau teithio neu ddarparu digwyddiadau fel arall fel rhan o’r ILP.

Am faint fyddwn ni’n cadw’ch manylion
Mae Llywodraeth Cymru yn aelod o’r ILP ar hyn o bryd tan 31 Gorfennaf 2024. Bydd eich manylion yn cael eu cadw tan hynny, oni bai eich bod yn gofyn i'ch manylion gael eu tynnu o'n cronfa ddata. Pe byddai Lywodraeth Cymru yn adnewyddu ei haelodaeth o’r ILP yna byddwn yn gofyn ichi ymuno eto i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn y newyddion a'r cyfleoedd diweddaraf i gysylltu â MIT drwy ILP. Os na fydd Llywodraeth Cymru yn adnewyddu ei haelodaeth o’r ILP y tu hwnt i fis Awst 2022 yna byddwn yn eich hysbysu yn ysgrifenedig a chaiff y gronfa ddata ei dileu yn barhaol pan ddaw’r aelodaeth i ben. 

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth ar ddiogelu data, mae gennych yr hawliau a ganlyn:
• yr hawl i weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru’n eu cadw amdanoch
• yr hawl i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hyn
• yr hawl i wrthwynebu (o dan amgylchiadau penodol) prosesu’ch data personol neu gyfyngu ar eu prosesu
• yr hawl i ofyn (o dan amgylchiadau penodol) inni ddileu’ch data
• yr hawl i gofrestru cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Am help gydag unrhyw rai o’r hawliau uchod, ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod:
https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni

Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yw:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Gwefan: www.ico.org.uk Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

1. Rwyf wedi darllen a deall y datganiad preifatrwydd ac rwy'n fodlon i Lywodraeth Cymru gadw fy data

 

2. Enw Cyswllt *

 

3. Sefydliad *

 

4. E-bost *

 

5. Dewis iaith *

 

6. Adran 2 - Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf perthnasol i chi, hoffem ofyn rhai cwestiynau i chi a fydd yn helpu i ddatblygu cylchlythyr ar gyfer busnesau yng Nghymru sy'n ymwneud â mit – ILP.

A hoffech chi gael cylchlythyrau sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y rhaglen a'i digwyddiadau?

 

7. A oes gennych chi bynciau penodol yr hoffech eu harchwilio gyda MIT?

 

8. Diolch am roi o’ch amser i lenwi’r holiadur hwn. Rhowch unrhyw sylwadau pellach yn y blwch isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â WelshGovernmentILPMIT@llyw.cymru