Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data fel rhan o’i ddyletswydd gyhoeddus at ddibenion penodol deall eich barn ynghylch rheoli chwyn yn Sir y Fflint ac at ddibenion Monitro Cydraddoldeb yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw’n ddienw ac yn cael ei defnyddio ar gyfer llunio adroddiadau i’w hystyried gan y sawl sy’n gwneud penderfyniadau.
Bydd yr adborth a ddarperir gennych yn cael ei gadw am flwyddyn.
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx (bydd yn agor mewn ffenestr newydd)
A fyddai gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o grŵp gweithredol yn eich ardal leol?