Rydym yn angerddol am ein hiaith ac yn falch ohoni. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, os ydym yn newydd i weithio a byw yng Nghymru neu os ydym wedi byw yma ar hyd ein hoes, os ydym yn gwybod un neu ddau o eiriau yn y Gymraeg neu’n gallu cynnal sgwrs bob dydd yn y Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn rhan o’n hunaniaeth - dyma ein treftadaeth a’n dyfodol.
Bu i ni osod ein gweledigaeth i ddod yn sir ddwyieithog yn 2019 yn ein Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan o’n cyfraniad i Strategaeth 2050 Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Roedd ein strategaeth yn cynnwys ein targedau ar gyfer cynyddu nifer a chanran y bobl sy’n defnyddio a siarad Cymraeg yn Sir y Fflint. Nawr mae angen i ni adolygu ein strategaeth. Rydym eisiau clywed eich barn ar beth sydd angen i ni ei gynnwys yn ein strategaeth nesaf ac annog mwy o bobl i ymuno â ni ar ein siwrnai, waeth faint o Gymraeg sy’n rhan o’u bywydau.
A wnewch chi gymryd 15 munud a’n helpu trwy lenwi’r arolwg hwn - mae eich safbwyntiau’n bwysig.
Gallwch ddarllen ein Strategaeth bresennol yma (agor ffenestr newydd).
Cysylltwch â busnescorfforaethol@siryfflint.gov.uk i gael mwy o wybodaeth neu gopi o’r arolwg mewn fformat gwahanol.
Dyddiad dychwelyd - 08/06/2025
Ydych chi’n ymateb i’r cwestiwn hwn fel ….?
Ein gweledigaeth
Nod Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg Sir y Fflint ar gyfer cyfnod 2019/24 yw hyrwyddo, cefnogi a diogelu’r Gymraeg er budd cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol… Ein nod mwy hirdymor, ar ôl 2024, yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i greu sir ddwyieithog ble mae’r Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd bob dydd.
Ydych chi’n cytuno â’n gweledigaeth?
Mae gofyn i ni osod targedau i gynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir. Mae hyn wedi ei gynnwys yn Hysbysiad Cydymffurfiaeth Safonau’r Gymraeg sy’n nodi beth sy’n rhaid i ni ei wneud yn y Gymraeg.
Yn 2011, dywedodd 19,200 (13.2%) o’n trigolion tair oed a hŷn eu bod yn gallu siarad a deall Cymraeg. Yn 2021, bu i’r ffigwr hwn ostwng i 17,400 (11.60%) o drigolion.
Ydych chi’n cytuno gyda’n targedau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i 15% (o 11.6%) o’r boblogaeth?