Hoffai'r Cyngor glywed eich barn am ei Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu ddrafft.
Byddwn yn ystyried y wybodaeth y byddwch yn ei rhannu â ni a bydd yn ein helpu i benderfynu ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn y Strategaeth derfynol.
Gallwch gyflwyno eich adborth rhwng 29 Medi a 9 Tachwedd 2025.
Cyn llenwi’r arolwg, a fyddech cystal â threulio ychydig o funudau yn edrych trwy’r strategaeth ddrafft (yn agor mewn ffenest newydd) .
Datganiad Preifatrwydd
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data fel rhan o’i ddyletswydd gyhoeddus at ddibenion penodol deall eich barn ynghylch ei Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu ddrafft ac at ddibenion Monitro Cydraddoldeb yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw’n ddienw ac yn cael ei defnyddio ar gyfer llunio adroddiadau i’w hystyried gan y sawl sy’n gwneud penderfyniadau.
Bydd yr adborth a ddarperir gennych yn cael ei gadw am flwyddyn.
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - http://www.flintshire.gov.uk/cy/Resident/ContactUs/Privacy-Notice.aspx (bydd yn agor mewn ffenest newydd)
Mae angen ateb ar y cwestiwn hwn
Rwyf i (ticiwch bob un sy’n berthnasol) *
A fyddech chi’n cytuno bod ein Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu ddrafft ....
A oes unrhyw beth arall y dylid ei ychwanegu at y Strategaeth yn eich barn chi?
Pa un o'r sianeli hyn ydych chi'n hoffi eu defnyddio i roi gwybod i ni am yr hyn sy’n bwysig i chi. Gallwch roi tic mewn mwy nag un blwch.
Mae'r ateb mewn fformat annilys.
A oes unrhyw sianeli eraill yr hoffech chi eu defnyddio i rannu eich barn gyda ni?
Rhestrwch nhw yn y blychau isod.
Os oes gennych chi unrhyw adborth arall am y Strategaeth, defnyddiwch y blwch isod.