Terfynau cyflymder 20mya

0%
 
Yn dilyn cyflwyno terfyn cyflymder statudol 20mya ym mis Medi 2023, gwahoddodd Llywodraeth Cymru bobl ledled Cymru i gysylltu â'u Cyngor lleol gydag adborth ar sut y gweithredwyd y newid hwn yn eu hardal leol. Cynhaliwyd y cam gwrando hwn gan Lywodraeth Cymru rhwng Mai 2024 a Medi 2024 https://www.llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-diofyn-o-20mya

 

Roedd angen yr adborth hwn er mwyn asesu'r newidiadau y gofynnwyd amdanynt yn erbyn y canllawiau diwygiedig cyhoeddedig ar osod terfynau cyflymder 30mya ar ffyrdd cyfyngedig. Mae'r canllawiau diwygiedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Cawsom sylwadau yn ymwneud ag 20 ffordd yn y Fwrdeistref Sirol. Cafodd yr 20 ffordd eu hasesu yn unol â chanllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar osod terfynau cyflymder 30mya ar ffyrdd cyfyngedig.

 

Mae llun ynghlwm er eich gwybodaeth.

 

Hoffem eich barn ar a ydych chi'n cefnogi'r terfyn cyflymder 20mya presennol yn dychwelyd i 30mya neu beidio cyn symud unrhyw newidiadau. 


Cwblhewch yr arolwg erbyn dydd Gwener 19 Medi, 2025.