1. Mae'r ffurflen gais hon ar gyfer trwydded benodol i ladd neu gymryd adar gwyllt penodol neu gymryd neu ddifa eu nythod neu wyau o dan Adran 16 (1) y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Cynghorir ymgeiswyr i wirio a ydynt yn gallu gweithredu o dan drwydded adar cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gwneud cais drwy ymweld â'n
gwefan (agor mewn tab newydd).
2. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddir o dan Adran 16 (1) c, cb, d, i, j a k yn y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, gyflwyno trwyddedau i ganiatáu lladd neu gymryd adar gwyllt,
ar yr amod nad oes datrysiad boddhaol arall.
3. O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, gall methu cydymffurfio ag amodau trwydded wneud daliwr y drwydded yn agored i erlyniad am drosedd.
4. Fel arfer, dim ond i berchennog neu ddeiliad y tir lle bydd camau yn cael eu cymryd y rhoddir trwyddedau neu i berson sydd wedi'i awdurdodi gan y perchennog neu'r deiliad.
5. Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth fanwl o'r broblem sy'n digwydd, neu sy'n debygol o ddigwydd, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i gymryd camau gweithredu yn erbyn adar gwyllt. Gall hyn gynnwys tystiolaeth a gasglwyd o brofiadau blynyddoedd blaenorol ac unrhyw wybodaeth am y niferoedd cyfredol o adar sy'n bresennol.
Dylid darparu tystiolaeth ffotograffig a fideo, oni bai bod rheswm dilys i beidio gwneud hynny.
6. Gall staff technegol o Cyfoeth Naturiol Cymru neu eu hasiantaethau ymweld â'r safle lle bwriedir cymryd y camau gweithredu yn ystod yr asesiad cais i ddilysu'r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen gais a thrafod pa fesurau ataliol sy'n cael eu defnyddio eisoes neu sydd wedi'u defnyddio yn y gorffennol.
Ni roddir trwyddedau oni bai bod dulliau atal anfarwol neu rwystrau amddiffyn ar waith lle y bo'n rhesymol ac mae’n ymarferol gwneud hynny.
7. Os yw'r tir lle y byddai'r drwydded wedi'i leoli o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn ychwanegol i gael trwydded i reoli adar, mae'n bosibl y bydd rhaid i berchennog neu feddiannydd y tir gael caniatâd ar wahân gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan adran 28E y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i hamnewidiwyd) ar gyfer gweithrediadau disgwyliedig mewn cysylltiad â defnyddio'r drwydded. Mae hyn yn berthnasol i weithrediadau sydd heb eu caniatáu yn benodol o dan y drwydded ac sy'n weithrediadau hysbysadwy mewn perthynas â'r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, er enghraifft y defnydd o gerbydau neu glirio llystyfiant at ddibenion gosod trapiau. Yn yr amgylchiadau hyn, oni bai bod y perchennog neu feddiannydd eisoes â'r cydsyniadau angenrheidiol, dylent roi hysbysiad i Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gynted â phosibl ynghylch unrhyw weithrediad o'r fath. Cynghorir perchnogion/meddianwyr i beidio â disgwyl am ganlyniad y cais am drwydded cyn hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru.