0%
Arolwg o'r Cod Dioddefwyr, 2022
Barn dioddefwyr am y system cyfiawnder troseddol
Diolch i chi am roi o’ch amser i ymateb i’r arolwg hwn. Dylai gymryd 15 munud i’w lenwi. Gallwch gadw eich atebion a dychwelyd i’r arolwg rywbryd eto.
Mae Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr yn gweithredu’n annibynnol ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r llysoedd i hyrwyddo hawliau dioddefwyr a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn gywir gan y system cyfiawnder troseddol.
Mae'n hollbwysig ein bod yn clywed gan ddioddefwyr am eu profiadau o'r system cyfiawnder troseddol a’r
Cod Dioddefwyr
. Dyma eich cyfle i ddweud eich dweud. Drwy rannu eich adborth, gall y Comisiynydd Dioddefwyr helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn y dyfodol yn cael y cymorth a’r canlyniadau cyfiawnder sydd eu hangen arnynt. Hoffem glywed gan unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd a/neu wedi riportio trosedd yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf, felly o 2019 ymlaen.
Byddwn yn dadansoddi’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ac yn cyhoeddi adroddiad ohoni, a fydd yn ychwanegu’r wybodaeth ymchwil am brofiadau dioddefwyr o’r system cyfiawnder troseddol. Mae’r arolwg yn ddienw, ond ar y diwedd rydym yn gofyn a ydych chi’n rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich dyfyniadau dienw yn ein hadroddiad. Rydym hefyd yn gofyn a fyddech chi’n fodlon rhoi cyfeiriad e-bost i swyddfa’r Comisiynydd Dioddefwyr gysylltu ag ef ar gyfer ymchwil yn y dyfodol e.e. i gael cyfweliad. Byddwch yn ddienw yn ein hadroddiadau (ni fydd modd eich adnabod ohonynt), p’un ai a ydych chi’n dewis rhoi eich manylion cyswllt i ni ar ddiwedd y gyfres hon o gwestiynau ai peidio.
Darllenwch y
Polisi Preifatrwydd
hwn sy’n egluro sut mae Swyddfa'r Comisiynydd Dioddefwyr yn casglu, defnyddio a rhannu eich gwybodaeth bersonol.
Rydym yn awyddus i glywed gan bob un sydd am lenwi’r arolwg hwn, gan gynnwys rhieni neu ofalwyr plant sydd wedi dioddef trosedd. Os ydych chi’n cefnogi rhywun sydd wedi bod yn ddioddefwr a fyddai’n hoffi ymateb ond sydd ddim yn gallu gwneud hynny oherwydd iaith, oedran, diffyg mynediad i’r rhyngrwyd neu rwystrau eraill, mae croeso i chi lenwi’r arolwg gyda nhw (neu yn achos plant, ar eu rhan). Neu, gallwch gysylltu â ni yn
victims.commissioner@victimscommissioner.org.uk
os hoffech chi wneud cais am gael yr arolwg mewn fformat gwahanol. Ar ddiwedd yr arolwg, rydym yn gofyn cwestiwn am y rhwystrau hyn. Bydd eich atebion yn ein helpu i wella arolygon yn y dyfodol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn
victims.commissioner@victimscommissioner.org.uk
There was an error on your page. Please correct any required fields and submit again.
Go to the first error.
Powered by
SmartSurvey
Javascript Required
Javascript is required for this survey to function, please enable through your browser settings, then refresh.