Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw'r arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu ansawdd triniaethau yn y lleoliad hwn i wirio bod cleifion yn cael y safonau gofynnol o ofal.
Gofynnir ichi ein helpu trwy gwblhau'r holiadur hwn. Barn y cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn yw'r ffordd bwysicaf o adael i ni wybod am ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.
Mae'n ddienw ac ni fydd modd i unrhyw un eich adnabod o'ch atebion. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth yn yr holiadur hwn a allai ddatgelu pwy ydych chi'n bersonol. Mae'r holl gwestiynau'n ddewisol, oni bai y nodir fel arall.
Dylech ond gwblhau’r holiadur hwn os ydych wedi cael gweithdrefnau ymbelydredd ïoneiddio yn yr adran hon. Gall y mathau hyn o weithdrefnau gynnwys gweithdrefnau diagnostig megis pelydrau-X a sganiau CT, yn ogystal â thriniaeth radiotherapi.
Diolch am eich cymorth.