Arolwg Asesu Sylfaenol ac Oed-Gyfeillgar

1. Cyflwyniad

0%
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gweithio tuag at wella ansawdd bywyd pobl hŷn ym Merthyr Tudful. Rydyn ni am sicrhau bod Merthyr Tudful yn dref sy’n ystyriol o oedran fel y gall pobl heneiddio’n iach, yn hapus, ac yn ddiogel yno. Diben yr Arolwg hwn yw ein helpu ni i ddeall yr hyn sy’n bwysig i bobl hŷn, a’r hyn y byddent am ei weld mewn cymuned sy’n oed-gyfeillgar. Bydd yn ein helpu ni i weld y pethau sydd eisoes yn gweithio’n dda ym Merthyr Tudful, ond hefyd y pethau sydd angen eu gwella ar gyfer pobl wrth iddynt heneiddio. Rydyn ni’n annog y rhai dros 50 oed, ynghyd â’u teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr i ddweud eu dweud yn yr Arolwg hwn, er mwyn ein helpu ni i ysgogi newid ym Merthyr Tudful. Bydd y wybodaeth a gasglwn o’r Arolwg hwn yn helpu i greu “Cynllun Gweithredu Oed-Gyfeillgar”, fel y gall pobl fod yn hapus i alw Merthyr Tudful yn “gartref”’ wrth iddynt heneiddio. Y DEFNYDD A WNAWN O’CH GWYBODAETH Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i gynnal eich hawliau preifatrwydd. Dim ond at ddibenion cyfreithlon y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Os hoffech gael gwybod mwy am y defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth bersonol, darllenwch ein hysbysiadau preifatrwydd sydd ar gael ar ein gwefan: Hysbysiad Preifatrwydd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful HYSBYSIAD PREIFATRWYDD: Mae gennych chi nifer o hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar wybodaeth yr ydyn ni’n dal amdanoch. At hynny, mae gennych yr hawl i gwyno os ydych chi’n anhapus â’r ffordd y mae’ch gwybodaeth yn cael ei phrosesu. Os hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â’r ffordd yr ydyn ni’n prosesu eich gwybodaeth yn ogystal â’ch hawliau, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gweithio tuag at wella ansawdd bywyd pobl hŷn ym Merthyr Tudful. Rydyn ni am sicrhau bod Merthyr Tudful yn dref sy’n ystyriol o oedran fel y gall pobl heneiddio’n iach, yn hapus, ac yn ddiogel yno. Diben yr Arolwg hwn yw ein helpu ni i ddeall yr hyn sy’n bwysig i bobl hŷn, a’r hyn y byddent am ei weld mewn cymuned sy’n oed-gyfeillgar. Bydd yn ein helpu ni i weld y pethau sydd eisoes yn gweithio’n dda ym Merthyr Tudful, ond hefyd y pethau sydd angen eu gwella ar gyfer pobl wrth iddynt heneiddio. Rydyn ni’n annog y rhai dros 50 oed, ynghyd â’u teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr i ddweud eu dweud yn yr Arolwg hwn, er mwyn ein helpu ni i ysgogi newid ym Merthyr Tudful. Bydd y wybodaeth a gasglwn o’r Arolwg hwn yn helpu i greu “Cynllun Gweithredu Oed-Gyfeillgar”, fel y gall pobl fod yn hapus i alw Merthyr Tudful yn “gartref”’ wrth iddynt heneiddio. Y DEFNYDD A WNAWN O’CH GWYBODAETH Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i gynnal eich hawliau preifatrwydd. Dim ond at ddibenion cyfreithlon y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Os hoffech gael gwybod mwy am y defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth bersonol, darllenwch ein hysbysiadau preifatrwydd sydd ar gael ar ein gwefan: www.merthyr.gov.uk/help/privacy-notice/?lang=cy-GB& HYSBYSIAD PREIFATRWYDD: Mae gennych chi nifer o hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar wybodaeth yr ydyn ni’n dal amdanoch. At hynny, mae gennych yr hawl i gwyno os ydych chi’n anhapus â’r ffordd y mae’ch gwybodaeth yn cael ei phrosesu. Os hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â’r ffordd yr ydyn ni’n prosesu eich gwybodaeth yn ogystal â’ch hawliau, cliciwch ar y ddolen ganlynol: www.merthyr.gov.uk/help/privacy-notice/?lang=cy-GB&