Rhagymadrodd
Mae'r gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd yn adolygu ac yn gwerthuso'r amgylchedd clinigol a'r cyfleusterau a ddarperir ac fe'ch gwahoddir i gymryd rhan yn y gwaith hwn. Cyn i chi gymryd rhan, mae'n bwysig ein bod yn eich helpu i ddeall pwrpas a natur y gwerthusiad gwasanaeth a beth fydd eich cyfranogiad yn ei olygu, os byddwch yn cymryd rhan.

Darllenwch y wybodaeth ganlynol yn ofalus, a chofiwch gysylltu â ni os nad yw unrhyw beth yn glir, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth. Rhoddir manylion cyswllt ar ddiwedd y daflen wybodaeth hon.

Beth yw pwrpas yr adolygiad a sut y caiff ei gynnal?
Y diben yw nodi'r disgwyliadau o ran yr amgylchedd a chyfleusterau a nodi sut y gellir eu gwella i fodloni disgwyliadau ac anghenion y presennol a'r dyfodol.

Pam ydw i wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan?
Y nod yw gwahodd cyfranogwyr sydd â phrofiad o’r amgylchedd a’r cyfleusterau presennol a ddarperir gan y gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd sy’n gallu rhoi mewnwelediad o safbwynt yr unigolyn.

Oes rhaid i mi gymryd rhan?
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Chi sydd i benderfynu a ydych am gymryd rhan ai peidio. Cesglir peth data personol at ddibenion monitro cydraddoldeb - dylid darparu'r holl ddata arall yn ddienw ar gyfer yr arolwg hwn - ni ddylech rannu unrhyw wybodaeth a fydd yn datgelu pwy ydych chi neu aelod o staff Betsi Cadwaladr.

Beth fydd cymryd rhan yn ei olygu?
Bydd cymryd rhan yn golygu ateb arolwg byr a fydd yn cymryd tua 5-10 munud.
Mae'r holiadur yn wirfoddol, yn ddienw ac yn gyfrinachol, bydd yr holl adborth a dderbynnir yn cael ei gofnodi, ei adolygu a'r themâu allweddol yn cael eu nodi, a bydd yn cael ei ddefnyddio i helpu i lywio unrhyw ddatblygiad opsiynau yn y dyfodol a phenderfyniadau am welliannau yn y Gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd.

A fydd fy nghyfranogiad yn gyfrinachol?
Bydd yr holl wybodaeth amdanoch a gesglir yn ystod yr adolygiad yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol a’i storio’n ddiogel yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
Dim ond staff Betsi Cadwaladr fydd â mynediad i'r wybodaeth hon a bydd unrhyw ddata a gesglir yn cael ei ddefnyddio at ddiben casglu mewnwelediad a gwerthuso'r Gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd. Bydd yr holl ddata, boed yn electronig neu ar bapur neu ar unrhyw ffurf arall, yn cael ei gadw yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data ac ni chaiff ei gadw’n hwyrach nag sydd ei angen i gwblhau’r gwerthusiad gwasanaeth.

Beth fyddwch chi'n ei wneud gyda chanlyniadau'r ymchwil?
Bydd data a gesglir o'r holiadur yn cael ei ddadansoddi a'i ymgorffori yn yr adolygiad gwasanaeth. Ni fydd modd adnabod unrhyw gyfranogwr yn yr adolygiad.

Beth sy'n digwydd nesaf?
Cysylltwch â’r gwasanaeth Ymddaliad Symudedd am ragor o wybodaeth neu os oes unrhyw beth yn aneglur - cysylltwch â’r gwasanaeth drwy:
Rhif y gwasanaeth 03000 850055 neu ebostio BCU.PAMSNorthWales@wales.nhs.uk


Iaith Gymraeg
Mae'r Arolwg hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym yn croesawu gohebiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn sicrhau bod unrhyw ymatebion yn cael eu darparu yn Gymraeg heb achosi oedi.

Dyddiad cau Arolwg
Bydd yr Arolwg hwn ar agor am 6 mis - y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r holiadur yw 14 Mehefin 2024.

Diolch am eich amser a’ch cyfraniad gwerthfawr.


Arolwg Saesneg
 

1. Ydych chi'n cyrchu'r gwasanaeth fel unigolyn - Defnyddiwr Gwasanaeth /

Cefnogaeth Gwasanaeth?