Cais am drwydded i bysgota am Gregyn Moch (Buccinum undatum) â chewyll ym mharth Cymru yn ystod cyfnod y drwydded rhwng 1 Mawrth 2022 a 28 Chwefror 2023
Mae Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021 yn gymwys o ran Cymru a pharth Cymru gan gynnwys ardal parth Cymru sydd y tu hwnt i ffin y môr tiriogaethol i gyfeiriad y môr.
Sylwer
- Mae Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefn drwyddedu mewn perthynas â chychod y DU a chychod tramor sy'n pysgota am gregyn moch â chewyll ym Mharth Cymru (rhanbarth glannau Cymru a rhanbarth môr mawr Cymru).
- Mae trwydded i bysgota am gregyn moch yn ofynnol ym Mharth Cymru. Mae eithriad yn berthnasol ar gyfer cychod sydd o dan 10 metr o hyd heb ddulliau i yrru’r cwch neu gychod a ddefnyddir ar gyfer pysgota hamdden.
- Bydd y cyfnod gwneud cais am drwydded yn agor ym mis Rhagfyr bob blwyddyn, tua 4 mis cyn dechrau cyfnod y drwydded ac yn cau ar y 31 Ionawr sy’n dilyn. Gellir cyflwyno ceisiadau ar ôl y cyfnod gwneud cais ond gallant gymryd mwy o amser i'w prosesu. Ni roddir trwyddedau am gyfnod o lai na mis.
- Rhaid i bob ymgeisydd fod yn berchnogion neu'n siartrwyr cychod pysgota sydd wedi'u trwyddedu i bysgota yn y DU.
- Pan fo cwch yn eiddo i fwy nag un person, mae angen un cais sy'n rhoi manylion yr holl berchnogion. Gellir rhoi copi dyblyg o drwydded i bob cydberchennog.
- Mae angen cais am drwydded ar gyfer pob cwch ac ni ellir trosglwyddo trwydded rhwng cychod na pherchnogion.
- Bydd y cyfnod blynyddol a ganiateir yn para o 00:01 ar 1 Mawrth bob blwyddyn i 23:59 ar ddiwrnod olaf mis Chwefror y flwyddyn ganlynol. Mae angen trwyddedau newydd ar gyfer unrhyw gyfnodau trwydded dilynol.
- Bydd trwyddedau a roddir mewn perthynas â cheisiadau hwyr (a dderbynnir ar ôl i'r cyfnod gwneud cais gau) yn cael eu rhoi o fewn 20 diwrnod gwaith. Bydd ganddynt yr un Terfyn Dalfa Misol (MCL) hyblyg gyda'r un dyddiad dod i ben a ffi â thrwyddedau y gwnaed cais amdanynt mewn pryd.
- Ni fydd ffi am drwyddedau a gymeradwywyd ar gyfer cyfnod y drwydded rhwng 1 Mawrth 2022 a 28 Chwefror 2023.
- Bydd unrhyw drwydded a gaiff ei rhoi o ganlyniad i'r cais hwn yn ymwneud â Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021 yn unig.
- Cyfrifoldeb deiliad y drwydded yw sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol arall (gan gynnwys deddfwriaeth pysgodfeydd a deddfwriaeth nad yw'n ymwneud â physgodfeydd).
- Mae darparu gwybodaeth ffug neu wneud datganiad ffug yn torri Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021 a all arwain at gamau gorfodi.
- Mae rhagor o wybodaeth yn y ddogfen Pysgodfa Cregyn Moch – Canllawiau 2022 i 23 ar wefan LLYW.CYMRU.