Ymgynghoriad i Ehangu’r Safle yn Ysgol Gynradd Drury

1. Cyflwyniad

0%
Mae’r Cyngor yn gofyn am eich barn am gynnig i gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael i blant yn Ysgol Gynradd Drury.

Mae’r Cyngor yn bwriadu darparu’r lleoedd ychwanegol yn yr ysgol drwy:

Gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Drury o’r ddarpariaeth ar hyn o bryd, sef 124 o leoedd llawn amser yn yr ysgol, i 180 o leoedd llawn amser – cynnydd o 56 o leoedd llawn amser o 1 Medi 2024 ymlaen. 

Byddai’r cynnig yn golygu y byddai nifer derbyn yr ysgol yn cynyddu o 17 disgybl ym mhob grŵp blwyddyn i 25 disgybl ym mhob un.  

Byddai’r cynnydd i’r capasiti’n cael ei ddarparu drwy godi estyniad ar adeilad yr ysgol a’i hailfodelu.  Y bwriad fyddai cyflwyno’r capasiti newydd i’r ysgol ar ôl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn 1 Medi 2024.

Mae eich barn am y cynigion i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Drury yn bwysig i ni.  Mae’r Cyngor eisiau i chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a dweud beth rydych chi’n ei feddwl am y cynnig, yn enwedig os gallai effeithio arnoch chi neu eich plant.


Am wybodaeth ynglŷn â sut mae’r Tîm Moderneiddio Ysgolion yn diogelu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu yn ystod prosesau ymgynghori anffurfiol, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd sydd i’w weld ar y ddolen hon: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx

Mae fersiynau print bras, Braille, fersiynau mewn ieithoedd eraill a chopïau caled o’r dogfennau hyn ar gael ar gais gan y Tîm Moderneiddio Ysgolion.

Gallwch gysylltu â’r Tîm ar y manylion isod:
Y Tîm Moderneiddio Ysgolion | School Modernisation Team
Addysg ac leuenctid | Education and Youth
Cyngor Sir y Fflint | Flintshire County Council 
Tŷ Dewi Sant | Tŷ Dewi Sant
Parc Dewi Sant | St David’s Park
Ewlo | Ewloe
Anfon e-bost at: 21stcenturyschools@flintshire.gov.uk; neu
Ffonio 01352 704014 neu 01352 704015.

Ar sail y wybodaeth sydd ar gael, rhowch wybod i ni beth yw eich barn drwy
Lenwi a chyflwyno copi electronig o’r ffurflen ymateb hon;
Llenwi copi caled o’r ffurflen ymateb hon a’i phostio yn y bocs casglu yn Ysgol Gynradd Drury;
Llenwi copi caled o’r ffurflen ymateb hon a’i dychwelyd at y Tîm Moderneiddio Ysgolion yn y cyfeiriad uchod.

Datganiad Preifatrwydd
At y diben hwn yn unig fydd y wybodaeth rydych wedi'i darparu'n cael ei defnyddio.  Gallai’r wybodaeth gael ei rhannu gyda Swyddogion ac Aelodau’r Cyngor sydd ynghlwm â’r Ymgynghoriad Anffurfiol er mwyn rhoi gwybod i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am eich barn a chaniatáu mynd i’r afael ag unrhyw faterion rydych chi’n eu codi.

Mae’r wybodaeth yn cael ei chasglu’n unol ag Erthygl 6.1. (e) o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR).  Mae'r erthygl yn dweud bod prosesu'n angenrheidiol i gyflawni tasg sy'n cael ei gwneud er lles y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd wedi’i roi i’r rheolydd.

Bydd y gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy Smart Survey, sy’n darparu gwasanaethau cynnal arolygon ar y we.  Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, bydd y wybodaeth yn cael ei lawrlwytho a'i chadw yng Nghanolfan Ddata'r Cyngor cyn cael ei dileu o Smart Survey.  Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel am dair blynedd, yn ogystal â’r flwyddyn mae’r wybodaeth yn cael ei chasglu ynddi.

Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol, eich hawliau a manylion cyswllt y Tîm Diogelu Data i’w gweld drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Data-Protection-and-FOI/Privacy-Notice.aspx