Arolwg cyhoeddus ar gyfer asesiad anghenion fferyllol (PNA) Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

0%
 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn eich gwahodd i ddweud wrthym am wasanaethau fferylliaeth yn eich ardal. Mae hyn er mwyn helpu'r bwrdd iechyd i gynllunio gwasanaethau i'w gleifion nawr ac yn y dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu eich anghenion, gan ddefnyddio proses o'r enw 'asesiad anghenion fferyllol'.

Bydd eich atebion yn helpu'r bwrdd iechyd i nodi a oes unrhyw fylchau yn y gwasanaeth, er enghraifft a oes angen fferyllfa mewn ardal benodol, neu a oes angen i fwy o fferyllfeydd ddarparu gwasanaeth penodol. 

Gan edrych i'r dyfodol, bydd y bwrdd iechyd yn edrych ar yr hyn a allai newid dros y pum mlynedd nesaf ac a fydd digon o fferyllfeydd yn y mannau cywir, yn rhoi'r gwasanaethau y mae ar bobl eu hangen wrth, er enghraifft, i fwy o dai gael eu hadeiladu. 

Mae eich barn chi yn bwysig felly cymerwch ychydig funudau i gwblhau'r holiadur hwn. Rydym yn amcangyfrif y bydd yn cymryd tua 10 i 15 munud i chi ei gwblhau yn dibynnu ar faint yr hoffech ei ddweud wrthym am eich profiad o ddefnyddio fferyllfeydd. 

Mae'r holiadur yn ddienw ac ni fydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei chysylltu â chi.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr holiadur neu os oes gennych gwestiynau ynghylch sut i gwblhau'r holiadur, cysylltwch â cav.communitypharmacy@wales.nhs.uk gan gynnwys “Holiadur PNA” ym mhennawd y pwnc.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi comisiynu Cwmni Buddiant Cymunedol (CBC) Comisiynu Gofal Sylfaenol (PCC) i ddrafftio'r asesiad o anghenion fferyllol. Bydd Comisiynu Gofal Sylfaenol yn cadw eich ymatebion a dim ond at ddiben drafftio'r asesiad o anghenion fferyllol y bydd yn eu defnyddio. Gofynnwn i chi beidio â rhoi unrhyw wybodaeth a allai eich adnabod, fodd bynnag, bydd yr holl ddata a roddir yn eich ymateb yn cael ei gadw gan Comisiynu Gofal Sylfaenol yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data.

Amdanoch chi

 

Rhowch eich cod post os gwelwch yn dda

Drwy roi pedwar digid cyntaf eich cod post i ni, rydych chi'n cydsynio i ni ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddeall ym mha ran o ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro rydych chi yn byw fel arfer. Dim ond at ddibenion yr holiadur hwn y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio, er mwyn i ni allu nodi a ydym wedi derbyn ymatebion o bob cwr o ardal y bwrdd iechyd neu o ardaloedd penodol.  Peidiwch â rhoi eich cod post llawn i ni. 

Er enghraifft, os yw eich cod post yn CF14 4HH teipiwch CF14 yn y blwch isod. 

 

Dewis iaith:

A allech chi ddweud wrthym beth yw eich dewis iaith pan fyddwch chi'n defnyddio gwasanaethau mewn fferyllfa? Ticiwch un.

 

Sut ydych chi'n defnyddio'ch fferyllfa - naill ai'n bersonol neu drwy gael rhywun arall i fynd yno ar eich rhan

Pam ydych chi fel arfer yn ymweld â fferyllfa? Ticiwch bopeth sy'n berthnasol.

 

Pa mor aml ydych chi'n defnyddio fferyllfa? Ticiwch un.

 

Pryd mae'r amser mwyaf cyfleus i chi ddefnyddio fferyllfa? Ticiwch un.

 

Pa ddiwrnod sydd fwyaf cyfleus i chi ddefnyddio fferyllfa? Ticiwch un.

 

A fu amser yn ddiweddar pan nad oeddech chi, neu unigolyn ar eich rhan, yn gallu defnyddio'ch fferyllfa arferol? Ticiwch un.