1. Clinig Cyflym PrEP

Rydym yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar PrEP.  Os ydych eisoes yn derbyn PrEP gan Uned Menai, mae gennych yr opsiwn o gwblhau ffurflen syml a mynd i glinig i gael eich profion rheolaidd ac i gasglu PrEP.

Os byddwch yn dewis parhau, gofynnir ychydig o gwestiynau ar-lein i chi er mwyn penderfynu ai cymryd PrEP yw'r dewis cywir i chi o hyd.  Yna, bydd clinigwr yn adolygu eich hunanasesiad wedi'i gwblhau a byddwn yn cysylltu â chi eto (fel arfer o fewn wythnos) gyda chyngor ar beth i'w wneud nesaf. Fel arfer, apwyntiad gyda Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yw hwn, er nad felly o reidrwydd, i gael y profion priodol a chasglu PrEP.

Sylwer: ni allwn adolygu unrhyw symptomau na thrin unrhyw heintiau yn ystod apwyntiad PrEP Cyflym. Os oes gennych symptomau, bod arnoch angen triniaeth am haint, ei bod hi'n bryd i chi gael brechiad neu'ch bod yn awyddus i siarad â meddyg neu nyrs wyneb yn wyneb, trefnwch apwyntiad wyneb yn wyneb yn y clinig rheolaidd, lle gallwn hefyd roi PrEP ychwanegol i chi.

Mae'r gwasanaeth hwn yn addas ar gyfer pobl sydd eisoes yn mynd i Uned Menai i dderbyn PrEP yn unig.
 
 

Ticiwch y blwch i ddangos eich bod wedi darllen a deall yr uchod, eich bod wedi darllen ein Polisi Preifatrwydd ac y gallwn gysylltu â chi ar y rhif ffôn a ddarparwyd trwy alwad ffôn, neges destun neu neges llais os bydd angen.
  *

 
Manylion cyswllt y clinig
Rhif ffôn - 03000 850074



 

1. Rhif Ffôn y Clinig

 
Atebwch y cwestiynau isod

Hanes Meddygol

2. A oes gennych chi unrhyw gyflyrau neu ddiagnosisau meddygol newydd (gan gynnwys problemau gyda'r arennau) ers eich ymweliad diwethaf?

 

3. A fu unrhyw newidiadau i'ch meddyginiaeth reolaidd, moddion dros y cownter neu'r atchwanegiadau yr ydych yn eu cymryd ers eich ymweliad diwethaf?

 

4. Sut ydych chi'n cymryd eich PrEP?

 
Risg a Chysylltiad PrEP

5. A ydych chi wedi profi unrhyw sgil-effeithiau newydd yn gysylltiedig â'ch meddyginiaeth PrEP ers eich ymweliad diwethaf?

 

6. A ydych wedi cael unrhyw ryw heb ei ddiogelu tra nad oeddech yn cymryd PrEP yn y ffordd gywir/yn unol â chyfarwyddyd?