Sut y gwnaethom ddatblygu’r canllawiau drafft wedi’u diweddaru
Rydym yn adolygu ein holl safonau proffesiynol o bryd i’w gilydd, i wneud yn siŵr eu bod yn gyfredol, yn gyson â’r gyfraith, ac yn berthnasol i ymarfer.
Pan fyddwn yn cynnal adolygiad o’r canllawiau, rydym yn dilyn proses drylwyr. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad cydraddoldeb, ymchwil helaeth a chasglu tystiolaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a dadansoddiad ac ymgynghoriad cyhoeddus.
Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi ffurfio fforwm cynghori canllawiau safonau i’n cynghori, ein cefnogi a’n herio i adolygu’r canllawiau a datblygu’r fersiwn wedi’i diweddaru. Mae’r fforwm yn dwyn ynghyd aelodau sydd ag amrywiaeth eang o safbwyntiau o bob cwr o’r DU. Mae’r aelodau yn cynnwys arweinwyr clinigol ac eiriolwyr cleifion, yn ogystal ag arbenigwyr ar foeseg feddygol, y gyfraith, a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rydym nawr eisiau clywed eich barn chi am y canlynol:
- themâu a nodwyd gennym drwy ein gwaith ymchwil ac ymgysylltu hyd yma
- newidiadau strwythurol arfaethedig i’r canllawiau.
Strwythur
Rydym yn profi strwythur newydd sy’n cyfuno’r ddau ddarn presennol o ganllawiau. Y rheswm am hyn yw ei bod yn hanfodol i feddygon cofrestredig allu dod o hyd i’r canllawiau, a’u defnyddio, mewn ffordd hawdd. Mae hefyd yn bwysig bod cynnwys ar amddiffyn plant yn cael ei integreiddio’n effeithiol i ganllawiau ar ofal cyffredinol plant a phobl ifanc.
Mae diogelu yn rhan annatod a hanfodol o ofal plant a phobl ifanc, ac (fel gyda’n holl ganllawiau) mae’r dyletswyddau yn y canllawiau yn berthnasol i’n holl feddygon cofrestredig, i’r graddau eu bod yn berthnasol i’w hymarfer.
Yn y strwythur newydd drafft, rydym wedi cynnwys penodau newydd ar y pynciau canlynol:
- cyfathrebu a chefnogaeth
- gweithio gyda, a chynnwys eraill yng ngofal y plentyn neu’r person ifanc
- gwneud penderfyniadau
- cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth
- amddiffyn plant
- gweithgarwch rhywiol.