Casgliad y Werin Cymru – Arolwg o Fodlonrwydd Cwsmeriaid/Defnyddwyr

1. Cyflwyniad

0%

Diolch am ein helpu i wella gwefan Casgliad y Werin Cymru. Platfform digidol cenedlaethol yw Casgliad y Werin Cymru, sy’n arddangos ac yn dathlu hanes, diwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru. Drwy gyfrwng straeon, casgliadau a chyfraniadau gan unigolion, sefydliadau, mudiadau a chymunedau, ein nod yw casglu a rhannu treftadaeth Cymru er mwyn i bawb allu ei harchwilio.

Mae eich adborth yn hollbwysig i lunio gwasanaeth sy’n diwallu eich anghenion a’ch diddordebau. Bydd yr arolwg yn cymryd 4-6 munud i’w gwblhau, a bydd yr holl ymatebion yn cael eu cadw’n gyfrinachol. Rydym yn gwerthfawrogi eich barn onest a’ch sylwadau treiddgar.

Sut y byddwn yn defnyddio eich data

Chi sydd i benderfynu a ydych am ddarparu eich manylion neu beidio. Bydd yr ymatebion i gyd yn cael eu trin yn hollol gyfrinachol ac yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UE) 2016/679 a Datganiad Preifatrwydd Casgliad y Werin Cymru.