
Hoffem glywed gennych!
Mae cyfran o'r Dreth Gyngor a gaiff ei thalu gan breswylwyr yn helpu i ariannu gwasanaeth yr heddlu yn Ne Cymru.
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru sy'n gyfrifol am bennu cyllideb flynyddol yr heddlu a faint y mae preswylwyr yn ei dalu tuag at blismona drwy eu treth gyngor.
Cyn pennu cyllideb yr heddlu ym mis Ionawr 2026, mae'r Comisiynydd am glywed i ba raddau rydych chi'n cefnogi'r cynnydd arfaethedig sy'n cael ei ystyried. Bydd eich adborth yn helpu'r Comisiynydd i benderfynu sut i sicrhau cydbwysedd teg rhwng darparu cyllid digonol i ddiogelu gwasanaethau hanfodol a chadw pobl yn ddiogel, a pharhau i fod yn fforddiadwy i breswylwyr hefyd.
Mae barn pawb yn bwysig - bydd ond yn cymryd ychydig funudau i gwblhau'r arolwg cyflym hwn ac mae eich barn wir yn cyfrif
Bydd yr arolwg hwn yn cau ddydd Mercher 14 Ionawr 2026
Mae'n bwysig nodi er gwaethaf cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU y caiff rôl Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ei diddymu yn 2028, nad yw ein cyfrifoldebau a'n dyletswyddau wedi newid. Mae gennym ofyniad cyfreithiol i bennu cyllideb yr heddlu a phraesept flynyddol y dreth gyngor o hyd, gan sicrhau bod gan Heddlu De Cymru adnoddau priodol i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Bydd y penderfyniadau a wnawn eleni yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaeth y mae'r cyhoedd yn ei gael nawr a thros y blynyddoedd sydd i ddod. Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i gynllunio'n gyfrifol, cynnal sefydlogrwydd a diogelu plismona rheng flaen drwy gydol y cyfnod hwn o newid.