Dealltwriaeth a Gweithrediad Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

1. Cyflwyniad

0%

Mae Miller Research wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i nodi a gwerthuso effaith Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 (a cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "y Ddeddf") ar arferion gwaith gweithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau ar y rheng flaen i blant a theuluoedd.    


Mae'r ymchwil hon yn anelu at gasglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth o'r Ddeddf ymhlith gweithwyr proffesiynol, effaith y Ddeddf ar arferion gwaith gweithwyr proffesiynol, a barn gweithwyr proffesiynol am y graddau y mae'r Ddeddf wedi'u galluogi i gefnogi'n well hawliau plant yng Nghymru i gael eu hamddiffyn rhag trais. Bydd y canfyddiadau o'r ymchwil yn cyfrannu at yr adolygiad interim statudol, tri-blynedd ar ôl gweithredu'r Ddeddf.