Bob blwyddyn, fel eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae fy nhîm a minnau yn cynnal arolwg cymunedol. Mae hyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i'ch safbwyntiau ar fy nghynigion cyllidebol, yn ogystal â'ch adborth a phrofiadau o blismona lleol.
Bu adborth o arolygon blaenorol yn allweddol wrth ddatblygu sawl maes o waith fy nhîm, gan gynnwys:
Y ffordd rydym yn gweithio gyda sefydliadau lleol a Heddlu De Cymru, i dargedu arian ac adnoddau ar feysydd/materion penodol sy'n peri pryder dro ar ôl tro, yn well.
Y lleoedd a'r cymunedau yr wyf wedi ymweld â hwy, i archwilio'r pryderon a godwyd ymhellach ac edrych ar sut mae'r heddlu a sefydliadau partner yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Y pynciau yr ydym wedi'u trafod â Heddlu De Cymru yn ein cyfarfodydd craffu, sydd wedi ein galluogi i argymell sut y gellir gwella gwasanaethau, yn ogystal â nodi arfer da
Er mwyn helpu i lywio fy ngwaith o wneud penderfyniadau ar gyfer cyllideb 2024/25 yr heddlu ac i roi cipolwg gwerthfawr i mi a fy nhîm am blismona lleol, byddem yn gwerthfawrogi petaeth yn cymryd amser i gwblhau'r arolwg byr hwn.
Mae'r arolwg hwn yn cau ddydd Llun 18 Rhagfyr 2023
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael yr holiadur hwn mewn fformat gwahanol, cysylltwch â: engagement@south-wales.police.uk.