Deallusrwydd artiffisial mewn addysg - rhannwch eich barn

0%

Y llynedd, fe wnaethom wahodd athrawon ac arweinwyr mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion i gwblhau arolwg i archwilio barn a phrofiadau o ddeallusrwydd artiffisial (AI). Rhoddodd yr ymatebion gipolwg diddorol ar sut roedd ysgolion ac UCDau yn dechrau archwilio AI, ei risgiau a’i fanteision. Rydym yn ailgyhoeddi'r holiadur, i'n helpu i ddeall sut mae pethau wedi newid dros amser a datblygu darlun cliriach o sut mae ymgysylltu ag AI mewn addysg yng Nghymru yn esblygu, gan gynnwys newidiadau o ran hyder, arfer, cyfleoedd a phryderon.

 

Byddem yn croesawu ymatebion gan gydweithwyr a lenwodd yr arolwg yn flaenorol, yn ogystal â’r rhai na wnaethant ei lenwi.  Caiff y rhai a lenwodd yr arolwg y tro diwethaf eu hannog i wneud hynny eto i fyfyrio ar sut mae eu defnydd a’u dealltwriaeth o AI wedi newid.

 

Mae’r holiadur ar agor i unrhyw un sy’n gweithio mewn ysgolion ac UCDau yng Nghymru, yn ogystal â’r rhai sy’n eu cefnogi, fel swyddogion awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol addysg eraill.

 

Bydd y canfyddiadau’n helpu i lunio ein gwaith parhaus ar AI mewn addysg ac yn cefnogi dealltwriaeth gyffredin o sut mae AI yn cael ei ddefnyddio ar draws y system.

 

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 15 munud i’r gwblhau. 

 

Gallwch arbed yr arolwg a dod yn ôl ato ar unrhyw adeg.

 

Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd.