Gweledigaeth Strategol 2021-2026

 
Ffurflen Gwybodaeth Ymatebydd

Rhaid llenwi'r ffurflen hon a'i dychwelyd gyda'ch ymateb. I gael manylion llawn am sut y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dal ac yn defnyddio'ch gwybodaeth, gwelwch y wybodaeth ar y Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data ar ein gwefan, yn enwedig ein datganiad preifatrwydd.

Ydych chi'n ymateb fel unigolyn neu sefydliad? *

 

Enw llawn neu enw'r sefydliad *

 

Rhif ffôn *

 

Cyfeiriad *

 

Cod post *

 

E-bost *

 

Beth yw eich oedran? *

 

Hoffai Llyfrgell Genedlaethol Cymru gael eich caniatâd i gyhoeddi eich ymateb ymgynghori. Nodwch eich dewis cyhoeddi: *

 

Gwybodaeth i sefydliadau: Mae'r opsiwn 'Cyhoeddi ymateb yn unig (heb enw)' ar gael i ymatebwyr unigol yn unig. Os dewisir yr opsiwn hwn, bydd enw'r sefydliad yn dal i gael ei gyhoeddi. Os dewiswch yr opsiwn 'Peidiwch â chyhoeddi ymateb', mae'n bosibl y bydd enw'ch sefydliad yn dal i gael ei restru fel un sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad yn, er enghraifft, yr adroddiad dadansoddi.

Byddwn yn rhannu eich ymateb yn fewnol gyda'r rhai sy'n ymwneud â chwblhau'r strategaeth. Efallai yr hoffent gysylltu â chi eto yn y dyfodol, ond mae angen eich caniatâd arnom i wneud hynny. A ydych yn fodlon i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gysylltu â chi eto mewn perthynas â'r ymarfer ymgynghori hwn? *

 
Cwestiynau

1.
Ein Gweledigaeth 5 Mlynedd: A ydych chi’n credu y bydd ein Gweledigaeth 5 Mlynedd yn arwain at gyflawni ein swyddogaeth graidd mewn ffyrdd a fydd yn dwyn manteision i ddefnyddwyr y Llyfrgell a’r aelodau hynny o’r cyhoedd fydd am fanteisio ar ein gwasanaethau? Mynegwch eich barn yn y fan yma: *

 

2.
Ymgymryd â’r Her: Ydych chi'n cytuno â'n ffyrdd o fuddsoddi yn ein staff, cynllunio ariannol a hyrwyddo? *

 

3.
Casglu a Diogelu’r Casgliadau Cenedlaethol: Ni yw gwarcheidwad y cof cyhoeddedig a chofnodedig o Gymru ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ydych chi'n credu y bydd yr amcanion a amlinellir o fewn y flaenoriaeth strategol hon yn sicrhau diogelu casgliadau? *

 

4.
Darparu Mynediad at Wybodaeth: Rydyn ni'n awyddus i’w gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad i'r casgliadau. Yn eich barn chi, a fydd ein cynlluniau o fewn y flaenoriaeth strategol hon yn ein helpu i wella mynediad i bawb? *

 

5.
Bod Yn Ganolog i Fywyd y Genedl: Rydyn ni'n rhoi pobl wrth galon popeth rydyn ni'n ei wneud, gan gynnig amrywiaeth gyfoethog o ffyrdd i bobl gymryd rhan ac ymgysylltu â'u treftadaeth. Yn eich barn chi, a fydd ein cynlluniau o fewn y flaenoriaeth strategol hon yn ein helpu i gadw cynulleidfaoedd presennol ac ymgysylltu â rhai newydd? *

 

6.
Trawsnewid Digidol: Bydd ein rhaglen Trawsnewid ddigidol yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud i ddarparu mynediad digidol i’n casgliadau. Yn eich barn chi, a fydd ein cynlluniau o fewn y flaenoriaeth strategol hon yn cwrdd â'n nodau i ddarparu mynediad ehangach at ein casgliadau? *

 

7.
Cefnogi Dysgu ac Ymchwil: Byddwn yn cefnogi ac annog dysgu, ymchwil a darganfod. Yn eich barn chi, a ddylem roi blaenoriaeth i gefnogi dysgu ac ymchwil? *

 

8.
Datblygu’r Sefydliad: Ein nod yw bod yn sefydliad gwych i weithio iddo a chyda trwy ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, cyflawni a phartneru. Yn eich barn chi, a ydym yn mynd â'r sefydliad i'r cyfeiriad cywir? *

 

9.
Blaenoriaethu. Pa flaenoriaethau strategol sydd bwysicaf i chi? Rhifwch yn unol â hynny, gydag 1 y pwysicaf a 6 y lleiaf pwysig. *

 

10.
Sylwadau cyffredinol. Defnyddiwch y gofod hwn ar gyfer unrhyw beth arall yr ydych am ei gyfrannu. *