
Galwad am Dystiolaeth: Mentrau Datgarboneiddio Manwerthu yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Alma Economics i ymchwilio i ba fentrau datgarboneiddio sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan fanwerthwyr bach, neu gan fanwerthwyr mawr y gellid eu gweithredu gan fanwerthwyr bach, yng Nghymru. Bydd allbynnau’r gwaith yn llywio a chefnogi gwaith polisi i hyrwyddo mentrau datgarboneiddio a allai fod yn ymarferol ymhlith manwerthwyr llai.
Galwad am Dystiolaeth
Rydym yn cynnal Galwad am Dystiolaeth i gasglu enghreifftiau o fentrau datgarboneiddio sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan fanwerthwyr bach, neu gan fanwerthwyr mawr y gellid eu gweithredu o bosibl gan fanwerthwyr bach, yng Nghymru. Er enghraifft, byddai mentrau fel siopau sy’n derbyn jîns dieisiau i’w hailgylchu, gosod systemau oeri sy’n arbed ynni, neu leihau allyriadau danfon i gyd yn enghreifftiau perthnasol.
Mae’r Alwad am Dystiolaeth ar agor i’r holl fanwerthwyr, sefydliadau manwerthu, a chynrychiolwyr masnach ledled Cymru.
- Mae gennym ddiddordeb mewn mentrau datgarboneiddio a gyflwynwyd gan fanwerthwyr i:
- Leihau eu hôl troed carbon eu hunain – e.e. cynhyrchu eu hynni adnewyddadwy eu hunain.
- Lleihau ôl troed carbon eu cwsmeriaid – e.e. cynnig cynlluniau ailgylchu, ailddefnyddio ac atgyweirio.
Rhannwch unrhyw gyhoeddiadau, adroddiadau, neu ddogfennau mewnol sy’n disgrifio:
- Nodau a demograffig targed y fenter
- Sut y cafodd ei chyflwyno (e.e. partneriaethau, dulliau, neu strategaethau cyfathrebu)
- Hyd y fenter a ffynonellau cyllid
- Unrhyw heriau, lwyddiannau, neu wersi a ddysgwyd
- Tystiolaeth o adenillion ar fuddsoddiad, efelychu, neu’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion
- Neu unrhyw ddeunyddiau eraill perthnasol a allai helpu i ddangos effaith y fenter
Bydd eich tystiolaeth yn ein helpu i:
- Gasglu gwybodaeth am weithgareddau presennol a arweinir gan fanwerthwyr bach, neu gan fanwerthwyr mawr y gellid eu gweithredu o bosibl gan fanwerthwyr bach, yng Nghymru.
- Deall yr hyn sy’n galluogi ac yn rhwystro gweithredu’r mentrau hyn.
- Cryfhau’r sylfaen dystiolaeth i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio manwerthu yn y dyfodol.
Amser cwblhau: Hyd at 25 munud
Holiadur: Mae’r holiadur wedi’i rannu’n dair adran: i) cwestiynau cefndir am eich sefydliad, ii) cwestiynau am y fenter, gan gynnwys lle i lanlwytho dogfennau perthnasol, a iii) cwestiynau am eich diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfweliad dilynol posibl.
Mentrau: Llenwch Adran Dau yr holiadur ar gyfer pob menter yr hoffech ei rhannu. Canolbwyntiwch ar un fenter ar y tro. Ar ôl gorffen yr adran, cewch ychwanegu un arall. Gallwch gyflwyno hyd at dair menter i gyd.
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno: 5 Rhagfyr 2025, 23:59
Cyfrinachedd
Mae cyfrinachedd a diogelwch eich data yn bwysig i ni. Bydd yr holl wybodaeth bersonol (gan gynnwys eich enw, sefydliad, a manylion cyswllt) yn cael ei storio’n ddiogel gan Alma Economics ac ni fydd yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru nac unrhyw drydydd parti heb eich cydsyniad penodol.
Ni fyddwch yn cael eich enwi mewn unrhyw adroddiadau oni bai y dewiswch roi caniatâd. Ar ddiwedd yr arolwg, cewch nodi p’un a hoffech gymryd rhan mewn cyfweliad dilynol i drafod eich menter yn fanylach.
Rhoddir manylion llawn ynglŷn â sut rydym yn storio a defnyddio’ch gwybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd