Iaith:

Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân): newidiadau i ganllawiau statudol ar asesiadau yn lle profion

 

C1. A ydych yn cytuno â'r diwygiad arfaethedig i'r testun ynghylch sut i gynnal asesiad yn lle prawf fel yr amlinellir yn Atodiad A? 

 

C2. A ydych yn cytuno â'r diwygiad arfaethedig i'r testun ynghylch pwy sy'n cael cynnal asesiad yn lle prawf fel yr amlinellir yn Atodiad A?

 

C3. A ydych yn cytuno â'r diwygiad arfaethedig i'r testun ynghylch yr amgylchiadau lle gellir cynnal asesiad yn lle prawf, fel yr amlinellir yn Atodiad A?

 

C4. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar y diwygiadau a awgrymir i'r testun?

 

C5: Hoffem glywed eich barn am yr effeithiau y byddai diwygiadau i'r canllawiau safonol ar asesiadau yn lle prawf yn Nogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân) yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi?

 

Sut y gellid cynyddu'r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru'r effeithiau negyddol?

 

C6. Esboniwch sut rydych yn credu y gellid llunio neu newid y polisi arfaethedig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, heb unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 
 

 

C7. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y lle gwag hwn i roi gwybod amdanynt.
 
Nodwch yma: