Mae Gorchymyn Trwydded Bysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021 yn gymwys o ran Cymru a pharth Cymru gan gynnwys ardal parth Cymru sydd y tu hwnt i ffin y môr tiriogaethol i gyfeiriad y môr.
Pwy ddylai llenwi’r ffurflen?
Mae angen i unrhyw un sydd wedi cael trwydded i ddal cregyn y moch mewn cewyll ym mharth Cymru, fel amod o’r drwydded yn gorfod cyflwyno manylion ei ddalfa bob mis erbyn 23:59 diwrnod olaf bob mis,
hyd yn oed os nad yw wedi bod yn pysgota.
O beidio â gwneud, byddwch wedi torri un o amodau’ch trwydded a gallai camau gorfodi gael eu cymryd yn eich erbyn.
Mae rhoi gwybodaeth ffug neu wneud datganiad ffug yn torri amodau
Gorchymyn Trwyddedau Pysgota am Gregyn y Moch (Cymru) 2021 a gallai olygu cymryd camau gorfodi yn eich erbyn.
Pam ydyn ni’n casglu’r wybodaeth?
Caiff yr wybodaeth ei defnyddio i fonitro perfformiad y bysgodfa o safbwynt y Terfyn Dalfa Blynyddol (ACL) ac i benderfynu ar Derfyn Dalfa Misol (MCL) y mis canlynol. Yn wahanol i systemau casglu gwybodaeth eraill, bydd y ffurflen yn cofnodi’r ymdrech bysgota (nifer o gewyll ac am faint y byddan nhw yn y dŵr) a lleoliad y pysgota (is-hirsgwarau ICES) mewn ffordd safonol ar draws holl rannau’r fflyd (<10m/10-12m/>12m).
Rhaid cadw at yr holl ofynion cofnodi presennol eraill.
Cewch ragor o wybodaeth yn y
canllawiau Pysgodfa cregyn moch ar LLYW.CYMRU.