Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer Cynllunio Morol
Byddai Llywodraeth Cymru’n croesawu unrhyw safbwyntiau ar yr Hysbysiad Cynllunio Morol (MPN) drafft ar gyfer ynni ffrwd lanw, yn enwedig ar y cwestiynau canlynol. Cyflwynwch dystiolaeth i ategu eich ateb.
Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno SRAs ar gyfer ynni ffrwd lanw?
Cwestiwn 2: Ydych chi'n cytuno â'r cyfyngiadau gofodol sydd wedi'u defnyddio wrth nodi SRAs ynni ffrwd lanw arfaethedig?
Cwestiwn 3: Ydych chi'n cytuno â ffiniau arfaethedig yr SRAs ynni ffrwd lanw?
Cwestiwn 4: Ydych chi'n gwybod am unrhyw dystiolaeth ofodol ychwanegol a ddylai fod ar gael ar Borthol Cynllunio Morol Cymru i helpu defnyddwyr i ddeall cyfyngiadau a chyfleoedd perthnasol ar gyfer pob SRA?
Cwestiwn 5: Ydych chi’n credu y dylai SRAs posibl gael eu datblygu a’u cynnig i ymgynghori arnynt ar gyfer sectorau eraill?
Cwestiwn 6: A oes gennych unrhyw sylwadau ar ganfyddiadau'r Arfarniad Cynaliadwyedd o waith mapio SRAs?