Llwyfan hurio cynhwysol - Rhai sy’n chwilio am waith

 

Bydd ein gwefan yn helpu busnesau i recriwtio talent amrywiol a rhoi mynediad at gymuned o gyflogwyr cynhwysol i bobl anabl sy’n chwilio am waith. Rydym yn datblygu’r safle gyda’r bobl a fydd, gobeithio, yn ei ddefnyddio: bydd eich adborth yn ein helpu ni i greu adnodd sy’n bodloni anghenion pawb.

Cwestiynau ar gyfer rhai sy’n chwilio am waith. 

1. Sut ydych chi’n chwilio am waith ar hyn o bryd?

 

2. Pa wefannau chwilio am waith ydych chi’n eu defnyddio, os o gwbl?

 

3. Beth sy’n anodd ynghylch ymgeisio am swyddi?

 

4. Beth fyddai’n gwneud chwilio/ymgeisio am swyddi ar-lein yn haws i chi?

 

5. Hoffech chi gael opsiwn o gyflwyno fideos neu ffeiliau sain yn hytrach na cheisiadau ysgrifenedig?

 

6. Beth ydych chi’n ystyried yn fanteision o ran llwyfannau hurio yn benodol ar gyfer pobl ag anableddau? 

 

7. Beth ydych chi’n eu gweld sy’n rhwystr i ddefnyddio’r safle?

 

8. A fyddech chi'n defnyddio ardal mewngofnodi lle gallwch chi gadw ceisiadau, cyflogwyr ffefryn ac ati?

 

9. Beth arall fyddech chi'n ei chael yn ddefnyddiol ar y wefan?

 

10. Ydych chi'n meddwl y dylai'r wefan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli a gwaith di-dâl, neu opsiynau profiad gwaith?

 

11. Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio'ch anabledd neu gyflwr iechyd orau, os o gwbl?

 

12. Pryd ydych chi fel arfer yn crybwyll eich anghenion iechyd i ddarpar gyflogwr?

 

13. Pryd fyddai orau gennych chi siarad am eich anghenion iechyd?

 

14. Byddem wrth ein bodd yn clywed barn gan ddarpar ddefnyddwyr y safle wrth i ni ddechrau ei adeiladu. Gallai hynny olygu gadael i ni wybod beth ydych chi’n feddwl o osodiad y safle neu’r dyluniad a’r brandio.  Rhannwch eich manylion os gwelwch yn dda os hoffech chi i rywun gysylltu â chi gyda chyfleoedd i gymryd rhan ymhellach. 

I gael gwybod sut rydym yn cofnodi ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gweler ein polisi preifatrwydd yn https://rcs-wales.co.uk/cy/preifatrwydd/