Dylid cwblhau'r ffurflen hon i gefnogi cais i ddiwygio trwydded rhywogaeth sydd eisoes mewn grym ar gyfer cynnal arolwg, gwaith cadwraeth neu ddatblygu a roddwyd o dan:
  • Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017
  • Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • Deddf Gwarchod Moch Daear 1992
Gellir gwneud cais am y newidiadau canlynol drwy ddefnyddio’r ffurflen hon:
  • Newidiadau i fanylion cyswllt personol y trwyddedai a/neu’r ecolegydd enwebedig
  • Newidiadau i’r asiantau achrededig
  • Newidiadau i’r technegau neu’r offer ar eich trwydded arolwg neu drwydded cadwraeth
  • Newidiadau i’r rhywogaeth(au) a gwmpesir gan y drwydded
  • Newidiadau i’r fethodoleg waith / Datganiad Dull cytunedig
  • Newidiadau i’r amserlen waith
  • Newidiadau i’r Cynllun Rheoli cytunedig
  • Newidiadau eraill

Sylwer mae angen ffurflen wahanol ar gyfer y newidiadau canlynol:
Cysylltwch â ni er mwyn penderfynu a all gwaith o dan eich trwydded bresennol barhau tra bo’ch cais am ddiwygiad yn cael ei brosesu. Ceir senarios penodol a fyddai’n gwneud eich trwydded bresennol yn annilys, felly gofynnwn ichi gadarnhau hyn cyn parhau â’r gwaith.

Os yw eich trwydded bresennol wedi dod i ben, ni chewch ymgymryd â gwaith pellach o dan y drwydded hon nes eich bod wedi cael y drwydded ddiwygiedig.

Os daeth eich trwydded bresennol i ben dros bedair wythnos cyn cyflwyno'r cais hwn i ddiwygio a'ch bod yn ceisio diwygio'r gwaith y gellir cael trwydded ar ei gyfer, dylech ailymgeisio yn llawn.

 
Os yw eich trwydded yn dod i ben o fewn pedair wythnos i gyflwyno’r ffurflen gais am ddiwygiad hon, bydd angen i chi gwblhau a chyflwyno ffurflen Adroddiad ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop mewn perthynas â’r drwydded hon; mae’r ffurflen hon ar gael ar ein gwefan (yn agor mewn tab newydd).
Byddwch yn ymwybodol, os ydych yn gwneud cais i ddiwygio unrhyw waith trwyddedadwy (ac eithrio newidiadau i unrhyw amodau ar ôl cwblhau gwaith), a bod dros bedair wythnos wedi mynd heibio ers i’ch trwydded ddod i ben, na fyddwn yn gallu diwygio eich trwydded ac y bydd angen i chi gyflwyno cais newydd.
Byddwch yn ymwybodol, os ydych yn bwriadu gwneud newidiadau sylweddol i’r fethodoleg a gytunwyd gan CNC o dan eich trwydded cadwraeth neu drwydded datblygu bresennol, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu diwygio eich trwydded. Yn lle hynny, mae’n bosibl y gofynnwn ichi gyflwyno cais newydd yn ei gyfanrwydd.
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru addasu neu ddiddymu unrhyw drwydded a roddir, ond ni wneir hyn oni bai fod rheswm dilys gennym dros wneud hynny. Mae unrhyw drwydded a roddir yn debygol o gael ei diddymu ar unwaith os canfyddir y darparwyd gwybodaeth ffug yn y cais gwreiddiol.