Arolwg Pobl Blaenau Gwent - Archwiliad Sicrwydd y Tîm Cymunedol

CIW logo


0%
 
Diben yr archwiliad sicrwydd hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau a'u swyddogaethau o ran Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.

Rydym am ofyn rhai cwestiynau i chi am y gofal a'r cymorth rydych chi'n eu cael gan y bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol

Drwy ateb y cwestiynau isod, byddwch yn ein helpu i ddeall beth sy'n cael ei wneud yn dda a beth y gellid ei wella.

Cyfrinachedd
Bydd yr hyn y bydd pobl yn ei ddweud wrthym yn gyfrinachol oni fydd yn codi pryderon am ddiogelwch neu lesiant rhywun. Fodd bynnag, mae nifer y bobl rydym yn cyfweld/siarad â nhw yn ystod gwiriadau sicrwydd yn gymharol fach, felly ni allwn warantu na fydd eraill yn gwybod pwy fydd o bosibl wedi codi mater penodol. Os byddai'n well gennych siarad â ni am eich adborth, cysylltwch â ni ar 0300 7900 126 neu AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru