Arolwg Adborth Ymwelwyr

0%
 
Drwy gydol mis Medi, mae dros 200 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru yn cynnig rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau am ddim, teithiau tywys a phrofiadau trochol i ymwelwyr. Mae rhai o'r safleoedd hyn yn agor eu drysau i'r cyhoedd am y tro cyntaf erioed fel rhan o raglen Drysau Agored Cadw.

Mae Drysau Agored yn rhoi cyfle i bobl o bob oed gysylltu â'r gorffennol, profi treftadaeth gyfoethog a darganfod y straeon cyfareddol sydd wedi llunio hanes Cymru. Fel rhan o'r ŵyl, agorodd 19 o henebion eiconig Cadw eu drysau am ddim, ynghyd â channoedd o safleoedd treftadaeth eraill ledled Cymru.

Os ymweloch â safle fel rhan o Drysau Agored, byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth ac fel diolch am eich adborth byddwn yn eich cynnwys mewn raffl wobrau, i ennill aelodaeth blynyddol Cadw! Ar gyfer y Telerau ac Amodau a’n polisi preifatrwydd ewch i. Telerau ac Amodau | Cadw

1. Sut wnaethoch chi glywed am ddigwyddiadau gŵyl Drysau Agored Cadw

 

2. Faint o leoedd ydych chi wedi ymweld â nhw ym mis Medi eleni fel rhan o Drysau Agored yng Nghymru?