Dewis iaith arall

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: adroddiad blynyddol drafft 2023 to 2024


 
 
Rydym yn croesawu adborth ar yr Adroddiad drafft hwn, ac wedi cynnwys rhai cwestiynau ychwanegol lle byddem yn gwerthfawrogi eich barn.

C1: Mae’r Panel wedi parhau i ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol fel y meincnod ar gyfer pennu cyflog sylfaenol aelodau etholedig prif gynghorau. Mae cynnydd cymesur cyfatebol wedi’i gynnig i aelodau’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a’r Awdurdodau Tân ac Achub. Mae’r Panel wedi parhau i gyfeirio at yr Arolwg ASHE diweddaraf a gyhoeddwyd yn 2021. Ydych chi’n cytuno y dylai’r elfen cyflog sylfaenol fod yn gysylltiedig â data ASHE 2021?

 

C2: Mae’r Panel wedi gwneud newidiadau i sut y caiff costau a threuliau eu talu i aelodau cynghorau cymuned a thref. Ydych chi’n cytuno ag ychwanegu’r elfen “nwyddau traul”?

 

C3: Bydd y Panel yn casglu tystiolaeth gan brif gynghorau i edrych ar p’un a yw llwyth gwaith aelodau etholedig wedi newid, a sut y mae wedi newid, i lywio Penderfyniadau’n y dyfodol. Ydych chi’n fodlon y dylai’r Panel gynnwys yr adolygiad hwn yn ei gynllun gwaith ar gyfer y dyfodol ac adeiladu sylfaen dystiolaeth i gefnogi penderfyniadau?

 

C4: Rydym wedi lleihau maint yr adroddiad yn sylweddol eleni er mwyn canolbwyntio ar benderfyniadau allweddol a wnaed, ac yn bwriadu gwneud mwy o ddefnydd o'r wefan i roi arweiniad hawdd i ddefnyddwyr. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â'n hymdrechion i barchu'r heriau sy'n ein hwynebu wrth ddiogelu ein planed.

Sut y byddech chi’n dymuno cael gafael ar wybodaeth ac arweiniad gan y Panel? (dewiswch bob un sy’n berthnasol)

 

C5: Mae’r panel yn bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r holl randdeiliaid perthnasol dros y flwyddyn nesaf fel rhan o’r gwaith o ddatblygu ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol ac adeiladu ei dystiolaeth a’i strategaeth ymchwil.

Oes gennych chi unrhyw sylwadau a fyddai’n helpu’r Panel i gynnal y digwyddiadau ymgysylltu hyn?

Er enghraifft, a ydych chi’n ffafrio polau ar-lein, cynnal digwyddiadau ymgysylltu, yn rhithiol neu wyneb yn wyneb, pa grwpiau ddylai gymryd rhan, sut allwn ni ymgysylltu ag ymgeiswyr posibl ac ati.

 

A hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiadau ymgysylltu yn y dyfodol?