Cynhelir yr ymgynghoriad: 19 Mawrth 2026 – 11 Mehefin 2026 (23:59 pm)

 

Rydym yn adolygu canllawiau Credoau personol ac arfer meddygol (2013) ac rydym am glywed eich barn ar fersiwn ddrafft wedi’i diweddaru o’r canllawiau. Rydym am glywed gan gleifion a’r rheini sy’n eu cefnogi, meddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anaesthesia, amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a sefydliadau gofal iechyd.

Gallwch weld y canllawiau drafft wedi’u diweddaru ar ein gwefan. 

Gallwch hefyd weld y canllawiau presennol ar ein gwefan. 

Mae’r canllawiau hyn yn rhan o’r canllawiau manylach ar y safonau proffesiynol. Mae’n nodi sut gall meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia ddarparu gofal diogel da i gleifion mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u credoau a’u gwerthoedd personol. Mae’n cydnabod bod credoau a gwerthoedd cleifion yn gallu dylanwadu ar eu blaenoriaethau a’u penderfyniadau o ran eu triniaeth a’u gofal, ac mae’n rhoi arweiniad i’r gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio ar sut i fynd i’r afael â hyn.

Gwybodaeth am yr ymgynghoriad hwn 

 

Gwyddom y gall credoau personol ac arferion diwylliannol fod yn ganolog i fywydau llawer o feddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anaesthesia a chleifion. Rydym yn deall y gall y gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio – meddygon, cymdeithion anaesthesia a chymdeithion meddygol – fod â gwerthoedd personol sy’n gallu llywio’r ffordd maent yn ymarfer o ddydd i ddydd. A bod credoau a gwerthoedd cleifion yn gallu dylanwadu ar eu blaenoriaethau a’u penderfyniadau o ran eu triniaeth a’u gofal. 

Mae Credoau personol ac arfer meddygol yn egluro sut y gall meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia ddarparu gofal da a diogel i gleifion, gan ystyried eu credoau a’u gwerthoedd personol yn ogystal â rhai eu cleifion. Fel rhan o hyn, mae’r canllawiau hyn yn ymdrin â’r camau y mae angen eu cymryd os:

  • nad yw meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia eisiau darparu triniaeth na chymryd rhan ynddi oherwydd ei gredoau personol – mae hyn yn cael ei alw’n wrthwynebiad cydwybodol
  • bydd claf yn gwrthod gofal neu fath o driniaeth oherwydd ei gredoau personol
  • bydd claf yn gofyn am ofal neu driniaethau am resymau nad ydynt yn feddygol yn bennaf, ond yn hytrach, am resymau sy’n gysylltiedig â chredoau crefyddol, arferion diwylliannol, neu ffactorau cymdeithasol.

Mae’r canllawiau’n cyd-fynd ag Arfer meddygol da (2024), sef y canllawiau craidd ar y safonau proffesiynol. Mae’n nodi egwyddorion, gwerthoedd, a safonau ymddygiad proffesiynol sy’n ddisgwyliedig gan bob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anaesthesia sydd wedi cofrestru gyda ni. 

Y tro diwethaf i ni gyhoeddi Credoau personol ac arfer meddygol oedd yn 2013. Rydym wedi gwneud diweddariadau technegol i’r canllawiau ers hynny – gan gynnwys ym mis Rhagfyr 2024 i adlewyrchu ein bod wedi dechrau rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia. Rydym nawr yn cynnal adolygiad manwl i wneud yn siŵr bod Credoau personol ac arfer meddygol yn adlewyrchu datblygiadau ar draws systemau gofal iechyd y DU a newidiadau cymdeithasol ehangach, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. 

Sut y gwnaethom ddatblygu’r canllawiau drafft wedi’u diweddaru

 

Buom yn trafod yr adolygiad o’r canllawiau hyn gyda nifer o randdeiliaid, gan gynnwys swyddogion cyfrifol, aelod-sefydliadau’r Fforwm Cydraddoldeb Hiliol a’r Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Strategol, a cholegau brenhinol meddygol. Mae’r trafodaethau hyn wedi helpu i siapio ein dull gweithredu hyd yma a byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r grwpiau hyn, ac eraill, wrth i ni fwrw ymlaen â’r gwaith.

Gwnaethom hefyd ffurfio’r Fforwm Cynghori ar Ganllawiau Safonau i’n cynghori, ein cefnogi a’n herio i adolygu’r canllawiau a datblygu’r fersiwn wedi’i diweddaru. Mae’r fforwm yn dwyn ynghyd aelodau sydd â chyfoeth o safbwyntiau o bob cwr o’r DU. Maent yn cynnwys arweinwyr clinigol ac eiriolwyr cleifion, yn ogystal ag arbenigwyr ar foeseg feddygol, y gyfraith, a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Gwnaethom ddatblygu drafft wedi’i ddiweddaru o’r canllawiau yn dilyn ymchwil helaeth i sut: 

  • gall credoau personol meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia effeithio ar y gofal maen nhw’n ei ddarparu a sut maen nhw’n rhyngweithio â’u cydweithwyr a gyda chleifion 
  • gall credoau a gwerthoedd cleifion ddylanwadu ar eu blaenoriaethau a’u penderfyniadau o ran eu gofal.

Rydym wedi edrych ar sut mae’r gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio yn defnyddio’r canllawiau presennol ac yn defnyddio amrywiaeth o ddata a gwybodaeth i ddeall lle gallai fod angen mwy o eglurder neu gymorth. 

Rydym hefyd wedi ystyried newidiadau yn y gyfraith ac wedi adlewyrchu’r rhain lle bo hynny’n briodol yn y canllawiau drafft wedi’u diweddaru. 

Rydym wedi cyflwyno cynnwys newydd ac wedi gwneud rhai newidiadau i’r canllawiau drafft wedi’u diweddaru. Mae’n bwysig nad ydym yn creu beichiau afrealistig neu feichiau ychwanegol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia pan fyddwn yn diweddaru’r canllawiau ar y safonau proffesiynol. Mae’n bwysig hefyd ein bod yn osgoi dyblygu canllawiau a chyngor a ddarperir gan gyrff a sefydliadau eraill. Yng ngoleuni hyn, rydym ond yn ceisio cyflwyno dyletswyddau newydd lle: 
  • maent yn berthnasol i ymarfer meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia ac nid yw’n weithred i gyflogwyr, addysgwyr na’r llywodraeth
  • mae modd gweithredu arnynt ac y gellir dangos tystiolaeth ohonynt, ee drwy arfarnu ac ailddilysu
  • maent yn angenrheidiol i ddiogelu cleifion, cynnal safonau neu gynnal hyder yn y proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio.

Cymerwyd camau gennym i sicrhau bod y canllawiau drafft wedi’u diweddaru yn cynnwys dolenni i ganllawiau safonau proffesiynol eraill lle bo hynny’n berthnasol. Gwnaethom hefyd sicrhau bod y diweddariadau’n adlewyrchu canllawiau a ddiweddarwyd yn fwy diweddar, gan gynnwys Arfer meddygol da (2024) a Gwneud penderfyniadau a chydsynio (2020). Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru yn pwysleisio caredigrwydd, parch, cynhwysiant, a phwysigrwydd canfod beth sy’n bwysig i gleifion. 

Drwy gydol yr ymgynghoriad, rydym wedi cynnwys y rhesymeg y tu ôl i’r newidiadau arfaethedig a chynnwys newydd yn y canllawiau drafft wedi’u diweddaru. 

Rydym ni eisiau clywed gennych chi 


Mae’n hanfodol bod Credoau personol ac arfer meddygol yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau pawb y mae’n effeithio arnynt. 

Rydym am glywed gan gleifion a’r rheini sy’n eu cefnogi, meddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anaesthesia, amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a sefydliadau gofal iechyd. 

Mae amrywiaeth o systemau credoau yn bodoli yn y DU, a gall credoau personol fod ar sawl ffurf. Gallant fod yn grefyddol, yn wleidyddol, yn athronyddol neu’n foesol eu natur ac yn seiliedig ar arferion diwylliannol yn ogystal â ffactorau cymdeithasol ac ysbrydol. 

Rydym yn cydnabod y gall y graddau y bydd credoau personol claf yn dylanwadu ar ei flaenoriaethau gofal iechyd amrywio o un claf i’r llall. Mae hyn hefyd yn wir am y gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio – o ran eu credoau ac i ba raddau y mae’r credoau hynny’n sail i’w dull ymarfer. Mae angen i’r canllawiau wedi’u diweddaru roi cyfrif am yr amrywiadau hyn a sicrhau bod hawliau gwahanol grwpiau’n gytbwys. 

Mae’n bwysig ein bod yn deall sut mae’r materion sy’n cael sylw yn yr ymgynghoriad hwn yn berthnasol i’r gwahanol ardaloedd ac amgylcheddau lle mae’r gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio yn gweithio. Rydym yn annog unigolion a sefydliadau o bedair gwlad y DU i gymryd rhan.

Bydd eich adborth yn siapio’r canllawiau diweddaraf ac yn ein helpu i gefnogi meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia i ddarparu gofal diogel da i gleifion. Bydd hefyd yn helpu i gyfrannu at ddiwylliannau yn y gweithle sy’n barchus, yn deg, yn gefnogol ac yn dosturiol i bawb. 

Mae’r ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos, rhwng 19 Mawrth 2026 – 11 Mehefin 2026, felly rhannwch eich barn â ni.