Academi Wales

Gwneud cais ar gyfer Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan

 
Llenwch y ffurflen hon os ydych chi’n cael eich cyflogi yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru a/neu'r trydydd sector/sector gwirfoddol, os oes gennych chi gymhwyster coetsio ac yr hoffech chi gofrestru a bod yn rhan o Rwydwaith Coetsio Cymru Gyfan.
Telerau ac amodau
Diweddarwyd 8 Medi 2020

Rhannu eich gwybodaeth

Byddwn yn sicrhau, os bydd ein sefydliadau partner a/neu gontractwyr angen casglu neu drin eich gwybodaeth, y byddan nhw’n cydymffurfio â chyfraith diogelu data GDPR. Byddwn yn rheoli hyn drwy ofyn iddyn nhw gytuno â'r telerau hyn a thrwy wirio eu bod yn cydymffurfio. Mae hyn yn cynnwys: 

Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ar ein gwefan, yn ein ffurflenni cais ac yn ein harolygon ar-lein yn cael ei phrosesu gan CDSM Interactive Solutions Limited a SmartSurvey.

Gall unrhyw wybodaeth a roddwch yn eich proffil ar y wefan fod yn weladwy i ddefnyddwyr eraill y wefan. Gallwch ddiweddaru eich proffil ar y wefan unrhyw bryd.

Storio eich gwybodaeth
 
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn storio eich gwybodaeth yn unol â pholisi cofnodion Llywodraeth Cymru.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol tra byddwch chi’n aelod o Rwydwaith Coetsio Cymru Gyfan. Byddwn ni’n dileu eich gwybodaeth 13 mis ar ôl i chi roi gwybod inni eich bod yn gadael y rhwydwaith.

Rhagor o wybodaeth
 
Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni’n rheoli gwefan Academi Wales a’ch gwybodaeth bersonol ar ein tudalen Telerau ac Amodau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y telerau ac amodau a chadarnhau eich bod yn eu derbyn isod.
 

1. Ydych chi'n derbyn ein telerau ac amodau? *

 

2. Rhaid i chi gytuno y byddwch chi’n cydymffurfio â’r Safonau Gofynnol i Goetswyr yn Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan.

Ydych chi wedi darllen a chytuno i’r Safonau Gofynnol ar gyfer y Rhwydwaith Coetsio? *

 

3. Enw cyntaf *

 

4. Cyfenw *

 

5. Teitl swydd *

 

6. Sector *

 

7. Cyfeiriad e-bost gwaith *

 

8.  
Ym mha iaith/ieithoedd y gallwch chi goetsio?
 

 

9. Eich cymhwyster coetsio uchaf neu gyfatebol *

 

10. Ydych chi’n oruchwyliwr cymwysedig neu achrededig mewn goruchwylio coetsio? *

 

11. Nodwch unrhyw gymwysterau eraill sydd gennych chi sy’n ymwneud â choetsio. *

 

12. Profiad coetsio: rhowch ddisgrifiad byr o’ch profiad coetsio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys manylion nifer y coetswyr rydych chi wedi’u cefnogi o’r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru (Dros 100 / Dan 250 gair) *

 

13. Oes gennych chi arweinydd/cydlynydd coetsio yn eich sefydliad? *

 

14. Er mwyn bod yn aelod o Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan rwyf wedi gofyn i fy rheolwr llinell am gymeradwyaeth drwy anfon neges e-bost i AW.CoetsioaMentora@llyw.cymru.

Bydd hyn ar yr amod bod unrhyw goetsio er budd sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus Cymru yn unig, ac nad oes - ffi’n cael ei chodi

Ydych chi wedi gofyn / trefnu i’ch rheolwr llinell anfon ei gymeradwyaeth? *

 

15. Byddaf yn darparu dau eirda dienw gan gleientiaid coetsio yn y sector cyhoeddus rwyf wedi’u coetsio dros y 12 mis diwethaf. Byddaf yn eu e-bostio i AW.CoetsioaMentora@llyw.cymru *

 
Ar ôl i ni dderbyn yr wybodaeth rydyn ni wedi gofyn amdani gennych chi a’ch rheolwr llinell, byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â chanlyniad eich cais.

Os byddwch chi’n llwyddiannus, byddwn yn eich cofrestru ar hyb cymunedol Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan. Byddwch hefyd yn gallu paratoi eich proffil coetsio ar wefan Academi Wales. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi unwaith y byddwch chi’n rhoi gwybod i ni ei fod wedi’i gwblhau.