Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'ch GIG lleol chi. Rydym yn darparu gwasanaethau iechyd y byddwch chi, eich teulu a'ch ffrindiau yn gyfarwydd â nhw yn eich ardal leol chi fel meddygon teulu, deintyddion ac ysbytai.
Mae'n bwysig i ni ddeall sut hwyl rydym yn ei chael o ran gwrando ac ymgysylltu â'r cyhoedd, yn eich barn chi. Mae'ch sylwadau chi yn ein helpu i wella a dysgu am y materion sy'n bwysig i chi.
I wneud hynny'n dda, rydym yn gofyn i chi fod yn onest gyda ni a rhoi gwybod i ni beth sy'n gweithio'n dda a beth mae angen ei wella.
Bydd yn cymryd rhyw 15 munud i gwblhau'r arolwg hwn, a bydd eich ymatebion yn cael eu cadw'n gwbl gyfrinachol ac yn cael eu defnyddio at ddiben yr ymarfer ymgysylltu hwn yn unig.
Mae'r holiadur yn wirfoddol, yn ddienw ac yn gyfrinachol, a bydd yr holl adborth a gawn yn cael ei gofnodi a'i adolygu a chaiff y prif themâu eu nodi.
Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r holiadur yw Dydd Gwener 19 Medi. Diolch am eich amser a'ch cyfraniad gwerthfawr.
Pan fyddwch yn llenwi'r blychau testun rhydd, cofiwch beidio nodi unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi neu pwy yw unrhyw unigolyn arall. Defnyddir y wybodaeth y byddwch yn ei darparu i ddatblygu ein cynigion a chedwir y wybodaeth honno yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.