Anglesey Logo
Ein Dyfodol 2022
Rhan 1: Cyllid y cyngor
0%
 
Mae’r sefyllfa economaidd bresennol gyda chwyddiant yn codi yn rhoi pwysau sylweddol ar gyllideb y cyngor wrth iddo orfod ariannu:
  • dyfarniadau cyflog uwch
  • costau ynni cynyddol
  • costau cynyddol gwasanaethau a gontractir yn allanol mewn ymateb i'r costau cynyddol a wynebir gan ein contractwyr
Yn ogystal, mae’r cyngor yn wynebu galw cynyddol am wasanaethau i gefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ystod yr argyfwng costau byw, gan gynnwys atal digartrefedd, gofal cymdeithasol oedolion a gofal cymdeithasol plant.

Amcangyfrifir efallai y bydd angen i’r cyngor gynyddu ei gyllideb refeniw o £15 miliwn i £20 miliwn (9% i 13%) yn 2023/24 a £6 miliwn i £10 miliwn (4% i 6%) yn 2024/25.

Cyn y cynnydd mewn chwyddiant, nododd Llywodraeth Cymru y byddai grant cynnal refeniw’r cyngor (sy’n ariannu tua 75% o gyllideb y cyngor bob blwyddyn) yn codi 3.6% yn 2023/24 a 2.5% yn 2024/25.

Yn amlwg, ni fydd hynny'n darparu digon o incwm ychwanegol i dalu'r costau cynyddol a bydd yn rhaid i'r cyngor ystyried sut y bydd yn gosod cyllideb gytbwys dros y blynyddoedd i ddod.

Er mwyn cynorthwyo’r cyngor i benderfynu ar ei strategaeth gyllidebol a’i flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, hoffai geisio eich barn.