Y datganiad diweddaraf ynghylch y sefyllfa – newid bychan i ddatganiad mis Tachwedd:
Yn ystod y misoedd diwethaf rydym wedi ymgymryd â cham cyntaf cynhwysfawr gwaith ymgysylltu â chymunedau lleol i ofyn beth yw eu barn am y defnydd o Ysbyty Llannerch Banna yn y dyfodol, yn dilyn y penderfyniad i gau gwelyau cleifion mewnol yr ysbyty dros dro ym mis Rhagfyr 2024, oherwydd pryderon am gynaliadwyedd y model gofal a heriau parhaus o ran staffio’r ysbyty.
Yn ogystal ag ymgymryd â dadansoddiad manwl o'u hadborth, sydd wedi’i grynhoi yma, rydym hefyd wedi cynnal dwy sesiwn hwyluso gyda chynrychiolwyr grwpiau rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu ac asesu modelau darparu gwasanaethau posibl at y dyfodol gan eu cymharu â chyfres o feini prawf cytunedig i bennu eu dichonolrwydd a'u cynaliadwyedd.
Mae hyn wedi arwain at ddatblygu rhestr ganolig yn cynnwys pedwar senario, sydd wedi’u crynhoi isod. Gallwch ganfod rhagor o fanylion yma: Rhestr Ganolig o Senarios Ysbyty Llannerch Banna
1. Datblygu Hwb/Canolfan Gofal Iechyd integredig
2. Agor cyfleuster adsefydlu/camu i lawr â gwelyau cleifion mewnol
3. Agor hwb Iechyd a Lles ynghyd â chyfleuster ar gyfer y trydydd sector
4. Gwella gwasanaethau cymunedol heb ddefnyddio'r adeilad yr ysbyty.
Ystyriwyd y pedwar senario yn fanwl ystod ein sesiwn ddiweddaraf gyda rhanddeiliaid a fynychwyd gan gynrychiolwyr Llais (y grŵp sy'n cynrychioli cleifion); cynghorau sir a chymuned; y Trydydd Sector, ac arweinwyr nyrsio a gofal sylfaenol lleol
Yn seiliedig ar sgorio a wnaed gan y rhai a oedd yn bresennol yn unol â meini prawf dymunol a ddatblygwyd ar y cyd, cynigiwyd y dylid bwrw ymlaen ag opsiynau 1, 3 a 4 i’w datblygu ac ymgysylltu ymhellach yn eu cylch. Cafwyd sgorau is mewn ymateb i Opsiwn 2 ac ni argymhellir ei flaenoriaethu ar hyn o bryd
Bydd cam nesaf y gwaith nawr yn cynnwys ymgysylltu pellach â thrigolion lleol, staff a chlinigwyr i ystyried y tri opsiwn hyn, gan ystyried yn benodol eu manteision a’u hanfanteision a pha un ai a oes unrhyw beth heb ei gynnwys neu a oes unrhyw beth y mae angen i'r Bwrdd Iechyd ei ystyried.
Dymunwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi rhannu eu barn â ni, a'ch gwahodd i lenwi'r holiadur canlynol i'n helpu i ddatblygu'r syniadau ymhellach. Edrychwn ymlaen at sgyrsiau pellach wrth i ni gychwyn ar gam nesaf ein proses ymgysylltu.