Iaith:
St David Awards

Gwobrau Dewi Sant 2025 - Ffurflen enwebu

1. Pwy ydych chi’n enwebu?
Tudalen 1 o 3

Rhowch gymaint o fanylion â phosibl, gan gyfeirio at y testun cynorthwyol islaw pob cwestiwn neu adran 'Am y gwobrau' y wefan hon.
 

Pwy ydych chi’n enwebu?
Enwebai – Y person neu’r grŵp yr ydych yn eu henwebu: *

 

Dewiswch gategori perthnasol i'ch enwebai.
Edrychwch ar y canllawiau isod am ddiffiniadau. *

 
  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Dyma wobr ar gyfer pobl sydd wedi datblygu technegau neu atebion sy’n bodloni gofynion newydd ac sydd wedi darparu cynnyrch, prosesau, gwasanaethau, technolegau neu syniadau effeithiol sydd ar gael i bawb mewn cymdeithas.
  • Busnes: Dyma wobr i’r rheini sydd, drwy eu hymdrechion, wedi cael llwyddiant ysgubol mewn busnes. Gallai hyn gynnwys creu swyddi go iawn iddyn nhw eu hunain ac i eraill.
  • Chwaraeon: Dyma wobr ar gyfer tîm neu grŵp yng Nghymru sydd wedi llwyddo i ragori neu helpu i ragori yn y campau ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.
  • Dewrder: Dyma wobr i’r rheini sydd wedi ymddwyn yn eithriadol o ddewr neu sydd wedi dangos dewrder neilltuol yn eu cymeriad trwy wneud y peth iawn mewn sefyllfa anodd. Gallai olygu bod yn ddi-ofn neu’n gorfforol ddewr, a gweithredu heb feddwl am niwed posibl.
  • Diwylliant: Dyma wobr i unigolyn o neu yng Nghymru sydd wedi rhagori yn y celfyddydau a ffurfiau diwylliannol eraill, mewn unrhyw gelfyddyd, iaith neu gyfrwng. Gallai gynnwys ymhlith eraill, y rheini sydd wedi llwyddo i roi Cymru ar lwyfan y byd.
  • Gweithiwr handfodol: I unigolyn, tîm neu grŵp yng Nghymru sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, y gwasanaethau brys, llywodraeth leol, addysg neu ofal plant sydd wedi mynd gam ymhellach i ddarparu gwasanaeth eithriadol i bobl Cymru. Gweler y diffiniad o weithiwr handfodol.
  • Pencampwr yr Amgylchedd: Dyfernir y wobr i berson neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i wella yr amgylchedd, un ai yn lleol, ar draws Cymru neu yn rhyngwladol.
  • Person Ifanc: Rhoddir y wobr hon i berson neu grŵp ifanc eithriadol hyd at 19 oed sy’n ysbrydoli mewn unrhyw faes yng Nghymru.
  • Ysbryd y Gymuned: Mae’r wobr hon ar gyfer pobl yng Nghymru sydd wedi gweithio’n barhaus i wella eu cymuned lleol neu cymunedau ar draws Cymru.
  • Gwobr Arbennig: Rhodd personol gan y Prif Weinidog yw’r wobr hon – ni ellir enwebu rhywun yn uniongyrchol ar ei chyfer. Gallai wobrwyo gorchest grŵp neu unigolyn. Gallai’r enillydd gael ei ddewis o blith enillwyr y gwobrau eraill neu ei ddewis yn annibynnol arnyn nhw.

Disgrifiwch y person neu'r grŵp yr ydych yn ei enwebu. (100 gair ar y mwyaf)
E.e Pwy ydyn nhw? O ble maent yn dod? Beth yw eu cymeriad a/ neu natur eu gwaith o ddydd i ddydd? *

 
  • Peintiwch lun o'r person neu'r grŵp er mwyn i'r rhai sy'n ymwneud â'r broses beirniadu ddeall pwy ydynt cyn eu darllen yn yr adran nesaf ynglŷn â pham fod yr hyn maen nhw wedi'i wneud yn haeddu cael ei ystyried ar gyfer gwobr genedlaethol.
  • Hyd yn oed os ydych yn enwebu rhywun adnabyddus, rhaid disgrifio’r hyn y mae wedi’i gyflawni’n gywir. Disgrifiwch ei gymeriad a’i weithredoedd wrth y Pwyllgor Ymgynghori a pheidiwch â rhagdybio bod pawb yn gwybod amdano neu amdani a’i llwyddiannau.

Pam ydych chi'n eu henwebu?
Esboniwch pam eu bod yn haeddu Gwobr Dewi Sant. (700 gair ar y mwyaf)
E.e Pa mor eithriadol oedd eu ymddygiad? Beth yw canlyniad eu gweithredoedd? *

 
  • Rhowch enghreifftiau da ac esbonio sut y bu i’ch enwebai lwyddo, Ni fydd dweud “Mae Dafydd Dafis wedi codi llawer o arian at achosion da” yn ddigon. Byddai “Trefnodd Dafydd Dafis râs 5km noddedig yn y pentref a chael cefnogaeth noddwyr lleol adnabyddus i godi £5,000 at achosion da” yn well.
  • Rhowch gymaint o ffeithiau ag yr ydych yn eu gwybod neu y gallwch gael hyd iddyn nhw ar-lein. Mae croeso ichi ddefnyddio pwyntiau bwled yn lle brawddegau llawn i gadw o dan y terfyn geiriau.

Dolenni cefndirol (dewisol)
Rhowch ddolenni gwefan i esiamplau o waith neu weithredoedd eich enwebai fan hyn. Gall y rhain gynnwys erthyglau newyddion, gwefannau cwmni, albwm lluniau ar-lein, tudalennau codi arian, fideos neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol.