Dweud eich dweud ar ein proses gofrestru

0%
Diolch am gofrestru â ni. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth a hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg byr am eich profiad wrth gofrestru eich gwasanaeth.

Bydd eich adborth yn ein galluogi i wneud gwelliannau parhaus i'n prosesau ac yn ein helpu i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl.

Ein proses gofrestru yw'r ffordd rydym yn cael sicrwydd y bydd gwasanaethau gofal iechyd diogel ac effeithiol yn cael eu darparu i bobl Cymru.

Rydym wrthi'n ystyried y ffordd rydym yn rheoli ein proses gofrestru er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf craff posibl.

Rhowch eich barn ar hygyrchedd ein gwybodaeth gofrestru, eglurder y canllawiau a ddarperir, yn ogystal â'r broses gofrestru ei hun.

Noder nad cyfrwng i newid y gyfraith yw'r adborth hwn, ond i roi mewnwelediad er mwyn symleiddio'r broses o gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Diolch am eich amser. Gyda'n gilydd gallwn wella gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer pobl Cymru.