Strategaeth Tlodi Bwyd ar gyfer Merthyr Tudful - Grwpiau Gweithredu Cymunedol

1. Grwpiau Gweithredu Cymunedol

0%
Mae Miller Research wrthi’n gweithio tuag at greu Strategaeth Tlodi Bwyd ar gyfer Merthyr Tudful

Fel rhan o hyn, rydym yn cyd-drafod â sefydliadau bwyd cymunedol a gwirfoddol/trydydd sector sydd wedi eu lleoli ym Merthyr, i gasglu gwybodaeth o’r sefyllfa bresennol ar gyfer ymarferiad mapio ac i geisio barn ar bryderon cyfoes, yn ogystal â sut fath o strategaeth y gellid ei chael ar gyfer y sir gyfan i fynd i’r afael â thlodi bwyd.

Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu cadw’n ddienw. Does dim atebion cywir nac anghywir – y cyfan rydym yn chwilio amdano yw ymatebion agored a gonest. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau. Am fwy o wybodaeth am yr astudiaeth hon a sut y caiff eich data ei ddefnyddio, cliciwch yma i weld ein hysbysiad preifatrwydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Jessica Mann (jessica@miller-research.co.uk), Ymgynghorydd yn Miller Research a rheolwr y prosiect. Comisiynwyd yr astudiaeth hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac mae dull cyffredinol y Cyngor o ddiogelu data sy'n ymwneud ag arolygon cyhoeddus i'w weld yma.  

Diolch am eich help, mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr.