Diolch i chi am roi o’ch amser i ymateb i’r arolwg hwn. Dylai gymryd 10 munud i’w lenwi. Gallwch gadw eich atebion a dychwelyd i’r arolwg rywbryd eto.

Mae Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr yn gweithredu’n annibynnol ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a’r llysoedd i hyrwyddo hawliau dioddefwyr a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn gywir gan y system cyfiawnder troseddol.

Mae’n hollbwysig ein bod yn clywed gan staff gwasanaethau i ddioddefwyr a sefydliadau i ddioddefwyr. Rydym yn gwneud hyn i ddeall sut mae’r oedi presennol yn y system llysoedd yn effeithio ar ddioddefwyr ac ar staff sy’n gweithio i’w cefnogi. Drwy rannu eich adborth, gall y Comisiynydd Dioddefwyr helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn y dyfodol yn cael y cymorth a’r canlyniadau cyfiawnder sydd eu hangen arnynt. 

Byddwn yn dadansoddi’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ac yn cyhoeddi adroddiad ohoni, a fydd yn ychwanegu at yr wybodaeth ymchwil am effaith oedi yn y system llysoedd ar ddioddefwyr, ar wasanaethau i ddioddefwyr ac ar y system cyfiawnder troseddol. Mae’r arolwg yn ddienw a fydd dim modd eich adnabod chi yn ein hadroddiadau.

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd hwn sy’n egluro sut mae Swyddfa'r Comisiynydd Dioddefwyr yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol.

Rydym yn awyddus i glywed gan bawb sydd eisiau llenwi’r arolwg hwn. Cysylltwch â ni yn victims.commissioner@victimscommissioner.org.uk os hoffech chi wneud cais i gael yr arolwg mewn fformat gwahanol.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn: victims.commissioner@victimscommissioner.org.uk